Grantiau Adfywio Strategol
Mae ein grantiau cyfredol yn cefnogi gwelliannau i unedau eiddo masnachol a fydd yn adfywio ac yn gwella:
- Canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg)
- Canolfannau ardal (Abercynffig, Mynyddcynffig, Cwmogwr, Pencoed, Pontycymer a’r Pîl)
- Canolfannau gwasanaethau lleol Cymoedd Garw, Llynfi ac Ogwr (Gogledd Betws, De Betws, Melin Ifan Ddu, Blaengarw, Caerau, Nant-y-moel a Phont-rhyd-y-cyff)
Pwrpas y gronfa:
Troi gofod llawr gwag ar y lloriau uchaf yn llety preswyl newydd. Isafswm y gofyniad ar gyfer pob cynllun yw 1 fflat hunangynhwysol gydag 1 ystafell wely.
Disgwylir i’r cynlluniau fod yn gymysgedd o unedau un a dwy ystafell wely gyda'r maint yn cael ei bennu gan y cynllun caniatâd adeiladu a chynllunio.
Dylai’r cynlluniau gydymffurfio â'r isafswm o arwynebedd llawr fel yr argymhellwyd yn y Safon Ansawdd Tai Cymru diweddaraf, sef: -
- 46m² i bob fflat un ystafell wely
- 59m² i bob fflat dwy ystafell wely
Nid yw llety myfyrwyr, fflatiau a stiwdios yn gymwys i gael cyllid grant.
Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
Cysylltwch â ni i wneud cais am ffurflen gais lawn:
Pwrpas y gronfa:
Mae'r Grant Gwella Eiddo ar gael i feddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol yng nghanol trefi. Ei bwrpas yw gwella tu blaen adeiladau ynghyd ag uwchraddio gofod llawr masnachol gwag i'w adfer i ddefnydd busnes buddiol
Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
Cysylltwch â ni i wneud cais am ffurflen gais lawn:
Pwrpas y gronfa:
Darparu seddi awyr agored, blychau plannu, gorchuddion, ardaloedd gweini a chanopïau adeiladau.
Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
Cyfradd y Grant:
Hyd at 50% mewn amgylchiadau eithriadol
Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk i ofyn am ffurflen gais lawn.
Cysylltwch â ni i wneud cais am ffurflen gais lawn: