Ardrethi busnes

Mae talwyr ardrethi a pherchnogion pob eiddo annomestig a busnes yn talu ardrethi busnes, ac mae enghreifftiau o eiddo atebol yn cynnwys siopau, swyddfeydd, tafarnau, warysau a ffatrïoedd.

Y lluosydd ardrethi busnes

Llywodraeth Cymru sy’n pennu’r lluosydd ardrethi’n flynyddol, ac mae’r un fath ledled Cymru.

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, ceir tri lluosydd a all fod yn gymwys i eiddo yng Nghymru. Mae’r lluosyddion a ar gyfer 2026-27 fel a ganlyn:

  • lluosydd manwerthu o 0.350, sy’n gymwys i siopau manwerthu bach a chanolig sydd â gwerth ardrethol o dan £51,000
  • lluosydd safonol o 0.502, sy’n gymwys i’r mwyafrif o eiddo eraill
  • lluosydd uwch o 0.515, sy’n gymwys i eiddo sydd â gwerth ardrethol o fwy na £100,000

I gael gwybod faint fyddwch yn ei dalu am flwyddyn lawn, lluoswch eich gwerth trethadwy gyda’r lluosydd.

Chwilio A i Y

Back to top