Cwrt Padel Dros Dro

Gwahoddiad i Dendro: Cwrt Padel Dros Dro, Parc Griffin, Porthcawl

Mae cyfle cyffrous wedi codi am drwydded i redeg Cwrt Padel dros dro ym Mharc Griffin, Porthcawl.

Mae'r Cyngor yn cynnig y drwydded ar dir sy'n cynnwys yr hen Gyrtiau Tenis ym mhen deheuol y parc gyda'r lleoliad a'r maint a ddangosir wedi'u hamlinellu'n goch ar y cynllun. 

Ni chaniateir masnachu o dan unrhyw amgylchiadau o unrhyw leoliad heblaw yr hyn a nodir ar y cynllun. 

Byddai'r Drwydded o 1 o Ebrill i 1 o Hydref 2026.

Dylai'r ddarpariaeth gynnwys y canlynol:

  • Isafswm o 1 a hyd at 2 Gwrt Padel
  • Cyrtiau Padel i fod yn gwbl symudadwy
  • Bydd y trwyddedai yn gyfrifol am ddarparu ei gyflenwad pŵer a dŵr ei hun (os oes angen)

Sylwer: Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i adleoli'r ddarpariaeth i safle arall.

Invitation to Tender graphic

Cyflwyno cynnig 

Rhaid derbyn cynigion erbyn 26 Chwefror 2026, 12yp.

Dylai partïon sydd â diddordeb ymateb drwy ddarparu cynigion o fewn yr amserlen hon i'r cyfeiriad e-bost diogel canlynol:

Chwilio A i Y

Back to top