Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc: Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun 26 Mai 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 31 Mai 2025.
Eiddo ar gael i'w rhentu gan fusnesau ym Mhorthcawl
Mae pum cynhwysydd ar gael i fusnesau eu rhentu ym Mhorthcawl er mwyn rhoi hwb i fentrau busnes masnachol bach yn yr ardal.
Mae'r cynwysyddion wedi'u lleoli ym maes parcio Hillsboro De, wrth ymyl adeilad Harlequin ac maent ar gael am gyfnod dros dro o 3 blynedd.
Rhaid i unrhyw fusnesau sydd â diddordeb gadw at y meini prawf isod:
- Rhaid darparu ar gyfer ymwelwyr a'r gymuned leol
- Dylai’r busnes fod o fewn dosbarth A1 a darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n cyfoethogi cynnig presennol Canol y Dref
- Rhaid cyflwyno tystiolaeth y gall y busnes weithredu fel atyniad drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr o'r tu allan i Borthcawl a chefnogi ei rôl fel cyrchfan i dwristiaid

Bydd rhaid i’r tenant llwyddiannus:
- Ymrwymo at brydles 1 flwyddyn o leiaf, a dim mwy na 2 flynedd. Gall Landlord neu Denant dorri'r brydles drwy roi 3 mis o rybudd yn ysgrifenedig
- Fod ar agor o leiaf 6 diwrnod yr wythnos
- Talu costau cyfleustodau (Dŵr a Thrydan)
- Talu rhent cyfnod brig (1 Mawrth i 31 Hydref) o £125 yr wythnos a £75 yr wythnos y tu allan i’r cyfnod brig (1 Tachwedd i 28 Chwefror) (£5650 y flwyddyn) (bydd rhent is yn godi am y 2 gynhwysydd llai)
- Bod ag yswiriant atebolrwydd cyhoeddus digonol
Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb
I gyflwyno datganiad o ddiddordeb, cysylltwch â:
Cyfeiriad ebost: Robert.frowen@bridgend.gov.uk
Cyfeiriad ebost: Jonathan.phipps@bridgend.gov.uk
Dyddiad cau ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb: Dydd Gwener 6 Mehefin 2025