Ffair Dros Dro yn Salt Lake, Porthcawl

Mae cyfle cyffrous wedi codi i wneud cais am drwydded i weithredu ffair dros dro yn Salt Lake, Porthcawl. Mae'r Cyngor yn cynnig y drwydded yn y lleoliad a ddangosir wedi'i amlinellu'n goch ar y cynllun - Cynllun Safle

Ni chaniateir masnachu o dan unrhyw amgylchiadau o unrhyw leoliad heblaw yr hyn a nodir ar y cynllun. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i adleoli'r ddarpariaeth i safle arall. 

Byddai'r Drwydded ar gyfer naill ai 

A) 56 diwrnod masnachu i gynnwys Pasg a Haf 2026 (yn amodol ar ganiatâd cynllunio yn cael ei sicrhau gan y Trwyddedwr ac amodau'n cael eu cyflawni gan y Trwyddedai) neu 

B) 28 diwrnod masnachu yn Haf 2026. 

O dan A) a B) mae’r union ddyddiad dechrau a gorffen i'w gytuno gan y Trwyddedwr a'r Trwyddedai.

Gellir adnewyddu'r Drwydded hyd at Haf 2027 trwy gytundeb ar y cyd.

Gall reidiau neu offer aros ar y safle y tu allan i ddiwrnodau masnachu gyda chytundeb ymlaen llaw gan y Trwyddedwr.

Land at Salt Lake

Dylai'r ddarpariaeth gynnwys y canlynol:

  • Amrywiaeth o reids ac atyniadau ffair sy'n addas ar gyfer plant iau, pobl ifanc ac oedolion
  • Stondinau bwyd a diod
  • Cyfleusterau toiledau dros dro
  • Y twyddedai i fod yn gyfrifol am ddarparu eu cyflenwad pŵer eu hunain

Cyflwyno cynnig 

Dylai partïon sydd â diddordeb ymateb drwy ddarparu cynigion o fewn yr amserlen hon i'r cyfeiriad e-bost diogel canlynol:

Rhaid derbyn cynigion erbyn 12 hanner dydd 23 Ionawr 2026. 

Chwilio A i Y

Back to top