Casgliadau gwyliau banc - Gwybodaeth a chyngor ynghylch ailgylchu a chasglu gwastraff yn ystod gwyliau banc.
Unedau Diwydiannol Newydd
Ar Osod: Unedau Diwydiannol Newydd, Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl, CF33 6BL
Rydym yn falch o farchnata cam un o gyfres newydd o unedau diwydiannol yn y Pîl:
- Maint: 600 troedfedd
- Rhent: £4,500 y flwyddyn
- Yswiriant: £60 y flwyddyn
- Tâl Gwasanaeth: I'w gadarnhau
- Defnydd: B1- B8
Mae'r unedau'n cynnwys:
- Drysau caead rholer awtomatig gyda mynedfeydd ar wahân i gerddwyr
- Storfa/gweithfan
- Cegin fach
- Cyfleusterau toiled
- Mannau gwefru cerbydau trydan
Mae'n elwa o le parcio/troi a llwytho.
Er mwyn cyd-fynd â Strategaeth Sero Net y cyngor, mae'r unedau'n cael eu pweru gan ynni gwyrdd ac maent wedi'u gosod â phaneli ffotofoltäig/solar a phympiau gwres ffynhonnell aer i leihau'r costau rhedeg i'r deiliaid.
Datganiadau o ddiddordeb
Dylid cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yn ysgrifenedig i:
Cyfeiriad ebost: Property@bridgend.gov.uk