Rhentu garej neu ofod parcio

Rydym yn berchen ar garejys a gofod parcio ledled y fwrdeistref sirol a gallwch eu rhentu i gadw cerbydau.

Mae gan Flaengarw ddwy garej gaeëdig sydd wedi’u hadeiladu’n bwrpasol ar Stryd David a Stryd King Edward, sy’n cael eu gosod ar denantiaethau misol.

Rydym hefyd yn gosod mannau lle gall bobl adeiladu a chynnal eu garejis eu hunain.

Nodwch os gwelwch yn dda: Ni allwch rentu garejys i storio dodrefn, offer gardd nac i’w defnyddio fel gweithdy, oherwydd gall anwedd wneud difrod iddynt.

Ceisiadau am garejys neu ofod parcio

Rhaid anfon ceisiadau yn ysgrifenedig. Anfonwch eich cais i’r manylion isod:

Cyfeiriad ebost: property@bridgend.gov.uk

Terfynu eich tenantiaeth mewn garej neu ofod parcio

Rhowch fis o rybudd ysgrifenedig os gwelwch yn dda, yn nodi’r dyddiad pryd rydych chi am i’ch tenantiaeth ddod i ben. Ni ellir trosglwyddo tenantiaeth i unrhyw un arall pan mae’n dod i ben.

Cyn derbyn y terfynu, rhaid talu unrhyw ôl-ddyledion.

Os byddwch yn hwyr yn talu eich rhent ar unrhyw adeg, efallai y byddwn yn cyflwyno ‘Hysbysiad i Adael’ a bydd rhaid i chi dalu’r ddyled sy’n sefyll. Rhaid i chi adael y garej neu’r gofod mewn cyflwr derbyniol.

Chwilio A i Y

Back to top