O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Unedau diwydiannol i’w gosod
Mae gennym bum stad ddiwydiannol gyda 79 o unedau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r rhain yn amrywio o 51 metr sgwâr (550 troedfedd sgwâr) i 110 metr sgwâr (1,200 troedfedd sgwâr).
Mae’r unedau’n addas ar gyfer cymysgedd o ddefnyddiau busnes, gyda 10% wedi’u neilltuo ar gyfer adwerthu ar rai safleoedd.
Gwneud cais am uned ddechreuol
Gallwch wneud cais am uned cychwynnwr ar-lein:
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw gwneud cais yn sicrhau cynnig tenantiaeth.
Lleoliadau’r stadau diwydiannol
Rydym yn berchen ar dri safle gwahanol o unedau dechreuol yn Heol Tŷ Gwyn, sy’n cynnwys 20 o unedau dechreuol. Mae’r rhain yn amrywio o 36 metr sgwâr (390 troedfedd sgwâr) i 95 metr sgwâr (1,020 troedfedd sgwâr).
Mae unedau New Cornerstones yn gymharol newydd. Mae gan bob uned gompownd wedi’i gau, drysau rholio a thoiledau.
Hefyd mae pob un yn agos at rwydwaith ffyrdd Blaenau’r Cymoedd yr A465.
Mae’r 13 o unedau yma yng nghalon Cwm Garw. Maent yn amrywio o 67 metr sgwâr (725 troedfedd sgwâr) i 93 metr sgwâr (1,000 troedfedd sgwâr).
Mae gan bob uned ddrws rholio a thoiledau ac maent y tu mewn i gompownd diogel.
Mae’r stad hon ar gyrion Ogwr ac mae’n cynnwys 19 o unedau dechreuol unigol mewn dau gompownd diogel. Maent yn amrywio o 74 metr sgwâr (790 troedfedd sgwâr) i 92 metr sgwâr (990 troedfedd sgwâr).
Mae gan yr unedau yn y compownd cyntaf ar y stad lawr mesanîn pwrpasol a swyddfa/cegin gynnes. Hefyd ceir 10% o ddarpariaeth ar gyfer adwerthu.
Mae gan bob uned ddrws rholio a thoiled.
Mae gan y safle hwn gysylltiadau rhagorol â’r M4. Mae’r 18 o unedau mewn compownd diogel ac yn amrywio o 35 metr sgwâr (380 troedfedd sgwâr) i 110 metr sgwâr (1,200 troedfedd sgwâr). Mae gan bob uned ddrws rholio, swyddfa a thoiled.
Mae gan y stad hon naw uned unigol o 51 metr sgwâr (550 troedfedd sgwâr) i 93 metr sgwâr (1,000 troedfedd sgwâr). Cawsant eu hadeiladu’n ddiweddar ac maent yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau masnachol.
Mae’r unedau mewn compownd diogel ac mae gan bob un ddrws rholio, safle parcio penodol a thoiledau.
Canolfannau menter
Mae gennym ddwy ganolfan fenter. Mae’r rhain yn gymysgedd o weithdai bychain a swyddfeydd ar stadau diwydiannol Village Farm a Heol Tŷ Gwyn.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Business in Focus.