O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Sefydlwyd Fforwm Busnes Pen-y-bont at Ogwr yn 2008 i ddarparu cyfleoedd i fusnesau lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rwydweithio a chadw ar flaen y newyddion diweddaraf.
Mae’r fforwm yn cynnwys busnesau newydd a sefydledig sydd wedi’u lleoli o fewn amrywiaeth eang o sectorau, ynghyd â masnachwyr unigol, busnesau micro, bach a chanolig a chwmnïau rhyngwladol mawr.
Gall y fforwm eich helpu chi a’ch busnes mewn nifer o ffyrdd, sy’n cynnwys:
- Cyfarfod cwsmeriaid a chyflenwyr newydd
- Dysgu sgiliau newydd drwy weithdai busnes
- Cyfleoedd i rwydweithio drwy sesiynau Brecwast ‘Rhwydweithio Cyflym’ penodol
- Cyfleoedd i wneud cais am gyllid a allai helpu eich busnes
- Cynigion arbennig i helpu datblygu eich busnes

Cysylltu
Cyfeiriad: Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: business@bridgend.gov.uk

Dewch yn Aelod
Mae cofrestru ar gyfer y Fforwm Busnes yn rhad ac am ddim - dewch yn aelod heddiw!