O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU
Mae’r Gronfa Adfywio Cymunedol nawr ar gau.
Cyhoeddodd y Llywodraeth fuddsoddiad o £220 miliwn i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU yn ei chyllideb ar 3 Mawrth 2021.
Roedd y gronfa’n cefnogi’r bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus ar draws y DU, gan greu cyfleoedd i dreialu dulliau newydd a syniadau arloesol yn lleol.
Er nad oedd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o fewn y 100 safle blaenoriaeth uchaf, gwahoddwyd cynigion o hyd at £3m ar gyfer yr ardal. Rheolwyd yr UKCRF gan y ‘prif awdurdodau’. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd prif awdurdod Pen-y-bont ar Ogwr.
Anogwyd cynigion o brosiectau o ardaloedd trefol a gwledig, a rhaid oedd cyd-fynd â phedair thema a blaenoriaethau lleol:
- buddsoddi mewn sgiliau
- buddsoddi mewn busnesau lleol
- buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
- cefnogi pobl i gael gwaith
Roedd prosbectws y Llywodraeth yn nodi manylion pellach am amcanion y gronfa, y mathau o brosiectau yr oedd yn bwriadu eu cefnogi a sut yr oedd yn gweithredu – Prosbectws - Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
Gwahoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr geisiadau gan sefydliadau oedd yn cefnogi’r themâu uchod, ac a oedd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau lleol a nodwyd yng Nghynllun Llesiant a Chynllun Corfforaethol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyddiadau Allweddol
- 24 Mai: Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau lleol
- 18 Mehefin: Dyddiad cau ar gyfer y prif awdurdod i gyflwyno cais i’r Llywodraeth
- Diwedd Gorffennaf: Prosiectau llwyddiannus a gaiff eu cyflawni
- 31 Mawrth 2022: Dyddiad gorffen cyflawni prosiect
Y Broses Ymgeisio
Bu’r cyngor yn chwilio am gynigion gan sefydliadau a oedd am gyflawni gweithgaredd fel rhan o Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.
Gofynnwyd i ymgeiswyr ddarllen Prosbectws Cronfa Adfywio Cymunedol y DU a Nodyn Technegol i Ymgeiswyr a Darparwyr Prosiect Cronfa Gymunedol y DU cyn cychwyn ar eu cynnig.
Roedd y Prosbectws yn nodi manylion pellach am amcanion y gronfa, y mathau o brosiectau yr oedd yn bwriadu eu cefnogi a sut yr oedd yn gweithredu, gan gynnwys y broses a’r meini prawf dethol a ddefnyddiwyd i asesu ceisiadau.
Roedd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau trwy ddefnyddio Ffurflen Gais Cronfa Adfywio Cymunedol y DU. Ni dderbyniwyd ceisiadau mewn unrhyw fformat arall.
Roedd yn rhaid cyflwyno’r ceisiadau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn: bridgendcrf@bridgend.gov.uk
Proses gystadleuol oedd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU, ac nid oedd Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr na Llywodraeth y DU yn trafod â chynigwyr, ond, gellid gyrru cwestiynau i’r e-bost uchod.
Cwestiynau Cyffredin
LlDU sy'n gyfrifol am y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a bydd yn gwneud pob penderfyniad cyllido.
Bydd pob ALl yng Nghymru yn ymgymryd â rôl gydlynu leol, gan wahodd ac wedyn blaenoriaethu cynigion o'u hardal, cyn eu cyflwyno i LlDU.
Nid yw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i dynodi o fewn y 100 lle blaenoriaeth uchaf.
Gall ymgeiswyr prosiect gyflwyno i fwy nag un Awdurdod Arweiniol mewn ymateb i brosesau bidio lleol os bydd eu prosiect yn ymateb i ofynion a nodir ar draws mwy nag un lle.
Mae llywodraeth y DU yn gwahodd Awdurdodau Arweiniol i gydweithio ag Awdurdodau Arweiniol neu bartneriaid eraill ledled y DU os yw hynny'n berthnasol – er enghraifft, i hyrwyddo cyfleoedd prosiect trawsffiniol sy'n mynd i'r afael ag anghenion cyffredin neu’n cyflawni graddfa ddarparu effeithlon. O dan yr amgylchiadau hyn, gall Awdurdodau Arweiniol ddewis cynnal proses ar y cyd a/neu asesu ceisiadau ar y cyd.
Gall Awdurdodau Arweiniol ddilyn eu prosesau eu hunain a phenderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o gydweithio ag Awdurdodau Arweiniol eraill os yw hynny'n briodol. Gellir cyflwyno ceisiadau ar y cyd a dylai Awdurdodau Arweiniol gytuno pwy fydd yn cyflwyno'r cais i lywodraeth y DU.
Bydd i ba raddau mae prosiect yn dangos arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau yn cael ei asesu fel rhan o'r asesiad 'cyd-fynd yn strategol'. Mae sicrhau cydweithio ar draws mwy nag un lle yn un ffordd o ddangos hyn.
Bydd Llywodraeth y DU yn asesu prif ffocws daearyddol y prosiect, yn seiliedig ar faint o wariant ym mhob lle a nodir gan Ymgeiswyr y Prosiect ar y ffurflen gais. Ystyrir bod prosiectau sydd â'r rhan fwyaf o'r gwariant mewn llefydd blaenoriaeth (51% neu drosodd) yn brosiect blaenoriaeth.
Mater i bob prosiect yw pennu ei amserlen prosiect a'i gerrig milltir ei hun o fewn y cyfnod cyllido, gan gofio bod rhaid cwblhau'r holl ddarpariaeth a gwariant erbyn 31 Mawrth 2022.
Hoffem gyfeirio darpar ymgeiswyr at y nodyn technegol ar gyfer ymgeiswyr a darparwyr prosiectau.
Sylwer ein bod yn aros am ganllawiau manwl pellach gan Lywodraeth y DU ar fonitro, gwerthuso a sicrwydd.