Prosiectau y Gronfa Adfywio Cymunedol

Gwybodaeth am brosiectau llwyddiannus y Gronfa Adfywio Cymunedol a ddarparwyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod 2022.

Anogwyd cynigion o brosiectau o ardaloedd trefol a gwledig, a oedd yn cyd-fynd â phedair thema â blaenoriaethau lleol a nodwyd:

  • buddsoddi mewn sgiliau
  • buddsoddi mewn busnesau lleol
  • buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
  • cefnogi pobl i gael gwaith

Prosiectau

Cyflymydd sy’n Canolbwyntio ar Ferched ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ddarperir gan we are radikl

Prosiect: Beth am ddylunio, adeiladu a darparu profiad cyflymydd sy’n canolbwyntio ar ferched ar gyfer sylfaenwyr newydd sy’n ceisio creu refeniw rheolaidd rhwng £50k - £250k y flwyddyn.

Elevate and Prosper (EAP) Pen y-bont-ar Ogwr

Prosiect: Roedd y prosiect Elevate and Prosper (EAP) Pen y-bont-ar Ogwr yn gweithio trwy ddatblygu cyfres o fentrau dros dro i greu cyfleoedd ar gyfer busnesau newydd a busnesau micro dyfu, annog mwy o ymwelwyr i dreulio rhagor o amser yn y dref, a galluogi gwell gwytnwch gyda dull ‘cyflymach, ysgafnach a rhatach’ i brofi cyfres o newidiadau.

Roedd y prosiect yn sicrhau bod lleoedd ar gael ac yn trefnu’r broses, gan ddarparu cymorth arbenigol i fusnesau a darparu rhai grantiau bach i helpu busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd.

Trawsnewid Meddyliau Ifanc ar gyfer Yfory - Cynllun Addysg Beirianneg Cymru

Prosiect: Creodd y prosiect weithgareddau a phrofiadau rhyngweithiol wedi eu treialu i gyflwyno cyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg i ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 yr ysgol gynradd a disgyblion blynyddoedd 10 ac 11 yr ysgol uwchradd, a’u gwneud yn ymwybodol o’r ystod o yrfaoedd arloesol gwerth chweil sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol, ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth.

Ymgysylltodd disgyblion o’r ddau gategori oedran â’i gilydd yn y profiad dysgu, gyda’r pwyslais ar ddysgu a phontio i’r disgyblion cynradd, a rolau a phrofiad dysgu, gyrfaoedd a mentora/cyfrifoldeb i’r disgyblion uwchradd.

Cysylltu Athrawon â Diwydiant - Cynllun Addysg Beirianneg Cymru

Prosiect: Mae’r prosiect Cysylltu Athrawon â Diwydiant wedi creu a darparu digwyddiadau sydd wedi’u hanelu at weithwyr addysgu proffesiynol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.  Amlygodd y digwyddiadau gyffro a rhyfeddodau gweithgynhyrchu a pheirianneg i athrawon, a’u gwneud yn ymwybodol o’r ystod o yrfaoedd arloesol gwerth chweil sydd ar gael yn y sectorau Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Creadigol a Digidol, ac Ynni a’r Amgylchedd yn y rhanbarth.

Hefyd cynhaliodd y Prosiect sesiynau Cysylltiadau i Ddiwydiant wedi eu hanelu at ddisgyblion i roi’r cyfle i siaradwyr gwadd ymweld â’u hysgol i wasanaethau disgyblion, cynnal diwrnodiau all-gwricwlaidd a digwyddiadau eraill sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd.

Menter Pen-y-bont ar Ogwr / Busnes mewn Ffocws

Prosiect: Cynlluniwyd Menter Pen-y-bont ar Ogwr, a ddarperir gan Dyfodol Ffocws, i wella’r sefyllfaoedd y gallai pobl a busnesau lleol fod wedi cael eu hunain ynddynt yn dilyn pandemig Cofid-19.

Wedi’i deilwra at bobl economaidd anweithgar/di-waith/a gweithio rhan amser, gan eu cefnogi i ddechrau busnesau newydd a dod yn hunan-gyflogedig, tra’n datblygu sgiliau/hyder trwy ddarparu mynediad i hyfforddiant, datblygiad personol a chynnig cefnogaeth ac arweiniad.

Mae cefnogaeth hefyd ar gael i fusnesau lleol sydd wedi hen sefydlu, i helpu i'w llywio trwy adferiad Cofid-19 a chynnal asesiad o’u hanghenion, er mwyn canfod y meysydd allweddol o gefnogaeth a chymorth sydd arnynt eu hangen.

Chwilio A i Y

Back to top