Cronfa Effaith Balchder Bro

Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn rhaglen ledled Prydain, a’i nod yw darparu buddsoddiad i adfer balchder bro, cefnogi cydlyniant cymunedol, a sbarduno gweithgarwch economaidd lleol trwy welliannau gweladwy, tymor byr, wedi’u harwain gan y gymuned.

Mae’r Grantiau Bach yn cyd-fynd â’r amcanion Cronfa Effaith Balchder Bro canlynol:

  1. Mannau cymunedol: creu, ehangu, gwella neu adfer cyfleusterau cymunedol presennol a galluogi sefydliadau cymunedol i gymryd rheolaeth neu berchnogaeth o asedau lleol sy’n werthfawr ond sydd wedi’u tanddefnyddio.
  2. Mannau cyhoeddus: gwella’r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus - mae enghreifftiau o fentrau’n cynnwys mannau gwyrdd neu sgwariau cyhoeddus newydd neu wedi’u gwella, gwella ardaloedd chwarae awyr agored, mannau chwaraeon a hamdden, gosod dodrefn stryd, celf gyhoeddus neu arwyddion.

Cymorth Grant sydd ar gael

Mae Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro yn cynnig cyfalaf yn unig, yr isafswm sydd ar gael yw £1,000 a’r uchafswm yw £10,000 (gan gynnwys TAW anadferadwy).  Ni all cyfanswm costau’r prosiect fod yn fwy na £25,000.

Cyfanswm Costau’r Prosiect  A oes angen arian cyfatebol Uchafswm y grant 
O £1,000 i £10,000 Nac oes  £10,000
O £10,001 i £25,000 Oes  £10,000

Gwneud cais

Unwaith y derbynnir yr holl ddogfennaeth erbyn y dyddiad cau, bydd y cais llawn yn cael ei gyflwyno gerbron Panel Gwerthuso Grantiau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont at Ogwr i’w adolygu.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5.00pm ddydd Gwener 31 Mawrth 2026. 

Bydd pob ymgeisydd yn cael ei hysbysu o’r canlyniad erbyn 8 Mai 2026.

Os na fydd y dyraniad cyllid llawn wedi cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod ymgeisio hwn, bydd rownd ymgeisio ychwanegol yn cael ei agor.

Rhaid cwblhau pob prosiect llwyddiannus erbyn 28 Chwefror 2027. 

Darllenwch y ddogfen ganllaw ar gyfer Grantiau Bach Cronfa Effaith Balchder Bro cyn cwblhau’r ffurflen gais hon a dychwelwch y ffurflen drwy e-bostio:

Cyfeiriad ebost: reach@bridgend.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i wefan Reach:

Chwilio A i Y

Back to top