Prosiectau'r Fframwaith Ffyniant Cyffredin

Mae Cronfa Effaith Balchder Bro yn rhaglen ledled Prydain, a’i nod yw darparu buddsoddiad i adfer balchder bro, cefnogi cydlyniant cymunedol, a sbarduno gweithgarwch economaidd lleol trwy welliannau gweladwy, tymor byr, wedi’u harwain gan y gymuned.

Mae’r Grantiau Bach yn cyd-fynd â’r amcanion Cronfa Effaith Balchder Bro canlynol:

  1. Mannau cymunedol: creu, ehangu, gwella neu adfer cyfleusterau cymunedol presennol a galluogi sefydliadau cymunedol i gymryd rheolaeth neu berchnogaeth o asedau lleol sy’n werthfawr ond sydd wedi’u tanddefnyddio.
  2. Mannau cyhoeddus: gwella’r amgylchedd ffisegol mewn mannau cyhoeddus - mae enghreifftiau o fentrau’n cynnwys mannau gwyrdd neu sgwariau cyhoeddus newydd neu wedi’u gwella, gwella ardaloedd chwarae awyr agored, mannau chwaraeon a hamdden, gosod dodrefn stryd, celf gyhoeddus neu arwyddion.

Prosiectau

Mae Cornelly Development Trust (Amdani) yn elusen gofrestredig sy'n anelu at wneud newidiadau effeithiol a chynaliadwy i fywydau pobl. 

Helpodd Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro i ariannu gwaith tirlunio i droi'r ardal awyr agored segur yn ofod tyfu bywiog, cymunedol. 

Gosodwyd grisiau newydd i sicrhau mynediad diogel, a gosodwyd slabiau patio i greu ardal eistedd groesawgar, gan hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol a mwynhad. 

Gosodwyd planwyr mawr sy'n caniatáu i breswylwyr gynhyrchu bwyd, gan hyrwyddo iechyd, lles a dysgu parhaus.

Bydd y bwyd a dyfir yn helpu i gefnogi trigolion yr effeithir arnynt gan gostau byw cynyddol, gan gynnig ffrwythau, llysiau a pherlysiau ffres hanfodol i’r rhai sy’n cyfrannu at y pantri.

Cornelly Community Growing Space

Nod Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro yw helpu i ariannu gwaith i ddisodli soffitiau a ffasgiâu a oedd wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain ac yn bryder diogelwch posibl.

Bydd y gwelliannau’n helpu i ddiogelu’r cyfleuster cymunedol poblogaidd yn y dyfodol, gan sicrhau y gall barhau i ddarparu lle diogel a chroesawgar i breswylwyr, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr.

Team at Brackla Community Centre

Helpodd Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro i ariannu gwaith i ailosod ffenestri a drysau'r pafiliwn a oedd wedi mynd rhwng y cŵn a’r brain ac yn dechrau achosi pryderon diogelwch, ynghyd â bod yn niweidiol o ran effeithlonrwydd ynni.

Mae'r ffenestri a'r drysau newydd yn edrych yn well, a bydd y gwelliannau’n helpu i ddiogelu’r cyfleuster at y dyfodol, gan sicrhau y gall barhau i ddarparu lle diogel a chroesawgar i breswylwyr, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr.

New windows and door

Mae Billy's Gym and Wellness Centre yn gyfleuster ym Maesteg sy'n gweithio'n agos gyda meddygfeydd lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol i gefnogi plant a allai wynebu rhwystrau i fynediad at weithgareddau prif ffrwd. 

Eu nod yw cynyddu mynediad at weithgarwch corfforol cynhwysol, diogel ac ymgysylltiedig, gan alluogi plant o bob gallu, gan gynnwys y rhai ag amhariad ar eu golwg ac anghenion ychwanegol, i gymryd rhan mewn sesiynau strwythuredig i helpu i wella rheolaeth emosiynol, lleihau gorbryder, a chynyddu hyder.

Bydd Grant Bach y Gronfa Effaith Balchder Bro yn helpu i brynu eitemau arbenigol, gan gynnwys wal ddringo gynhwysol ac offer synhwyraidd, i helpu i greu amgylchedd unigryw, hygyrch i ddefnyddwyr.

Wedi'i sefydlu yn 2010, mae Clwb Bocsio Dreigiau Cwm Ogwr wedi'i leoli yng nghanol Cwm Ogwr.  Mae'r clwb yn croesawu bocswyr o bob oedran, yn rhoi lle i ddosbarthiadau menywod yn unig, ac wedi meithrin rhai o bencampwyr Cymru.

Dioddefodd y gampfa bocsio ddifrod mawr i'r nenfwd yn dilyn cyfnod o dywydd gwael ac roedd yna bryderon iechyd a diogelwch. 

Gwnaeth y Gronfa Effaith Balchder Bro alluogi’r clwb i benodi contractwr i gynnal y gwaith adnewyddu hanfodol. 

Digwyddodd y gwaith y tu allan i’r tymor bocsio, gan darfu cyn lleied â phosibl
ar amserlenni dosbarthiadau.

Mae'r nenfwd newydd yn edrych yn well, gan sicrhau bod y gofod mor ddiogel â phosibl, ac mae’n cyfrannu at effeithlonrwydd ynni.

New ceiling at boxing club

Mae Men's Shed Caerau yn elusen sy'n canolbwyntio ar leihau ynysu cymdeithasol gan hefyd gynorthwyo'r gymuned. 

Wedi'i sefydlu yn 2017, gall cyfranogwyr y fenter gymryd rhan mewn gweithgareddau fel gwaith coed a garddio i ddarparu cyfle rhyngweithio cymdeithasol. 

Gwnaethant gais am gyllid i ehangu gofod y gweithdy i gynnwys meinciau gwaith hygyrch sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, offer trydanol a nodweddion diogelwch angenrheidiol.

Mae’r gwelliannau wedi cynyddu nifer yr aelodau sy'n gallu cymryd rhan ar unrhyw adeg ac yn cefnogi eu cenhadaeth o leihau ynysu cymdeithasol.

Workspace in Men's Shed

Mae Canolfan Gymunedol Talbot yn gwasanaethu sbectrwm eang o'r boblogaeth leol, gan ddarparu ar gyfer ystod o grwpiau o bob oedran.

Mae plant ifanc a'u teuluoedd yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn sesiynau plant a babanod, tra bod preswylwyr hŷn yn elwa o fentrau fel y ganolfan gynnes a'r ganolfan gymunedol.

Defnyddiwyd y grant CEBB i ddisodli'r drysau blaen gyda dewisiadau ynni-effeithlon sy'n parchu hanes yr adeilad, yn lleihau’r gwres sy’n cael ei golli, yn amddiffyn rhag tywydd garw, ac yn sicrhau bod y ganolfan yn parhau i gydymffurfio â rheoliadau cadwraeth.

Gwnaeth hefyd eu galluogi i osod cyfleusterau fideo-gynadledda, gan alluogi'r ganolfan i gynnal cyfarfodydd ar-lein a sesiynau TGCh addysgiadol i breswylwyr.

Mae Canolfan Gymunedol Bryncethin yn rhan bwysig o'r gymuned, ac mae'n cael ei defnyddio gan grwpiau lleol y rhan fwyaf o ddiwrnodau.

Mae'r adeilad yn cynnal gweithgareddau cymunedol gan gynnwys banc bwyd, caffi cymunedol, canolfan gynnes a chyrsiau lles y GIG. 

Helpodd y cyllid y ganolfan i wneud atgyweiriadau hanfodol i oleuadau a llwybrau. Mae'r llwybr bellach wedi gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn a phramiau. Mae'r goleuadau solar yn cynnig ymdeimlad o ddiogelwch i holl ddefnyddwyr y rhodfa. 

Mae'r gwelliannau hyn wedi caniatáu i'r ganolfan ymestyn ei gwasanaethau a chynyddu nifer y defnyddwyr yn y cyfleuster cymunedol hanfodol hwn, a byddant yn sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ganolfan hygyrch a diogel i breswylwyr.

New lights at Bryncethin Community Centre

Mae Clwb Rygbi Mynyddcynffig yn glwb cymunedol cynhwysol, gyda dros 450 o chwaraewyr cofrestredig a mwy na 60 o wirfoddolwyr rheolaidd. Ochr yn ochr â chwaraeon, mae'r clwb yn ofod croesawgar i grwpiau cymunedol lleol, ac mae'n croesawu grwpiau anabledd, dementia ac elusennau yn rheolaidd, gan ddarparu lle cynnes, diogel i bobl sy'n byw gyda bregusrwydd.

Mae'r clwb eisoes yn elwa o baneli solar, ond roedd potensial ar gyfer mwy o arbedion ynni trwy osod batris solar ychwanegol.  

Gwnaeth cynllun Grant Bach CEBB alluogi'r clwb i benodi contractwr lleol i osod y batris heb fawr o darfu ar amserlen arferol y grwpiau cymunedol.

Gall y clwb nawr edrych ymlaen at ail-fuddsoddi'r arian sy’n cael ei arbed ar eu costau rhedeg misol yn y clwb ei hun a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu.

New solar battery at Kenfig RFC

Mae'r cwrs dŵr yn ardal werdd sefydledig o harddwch naturiol, gyda choed ynn, derw, ffawydd a sycamorwydd, a thwf cynefin aeddfed, sefydledig.  Mae'n ardal boblogaidd gyda cherddwyr, aelodau o'r gymuned, teuluoedd, a cherddwyr cŵn.

Mae'r trigolion yn mwynhau cynnal a chadw'r cwrs dŵr ac yn dod at ei gilydd i’w gynnal ar sail wirfoddol.

Roedd angen ailddatblygu'r bont bren oherwydd oedran, pydredd ac arwynebau llithrig. Aeth cyllid y Cynllun Grant Bach CEBB tuag at gostau tynnu'r bont bresennol, ailosod y llwybr a gosod rheilen law. Mae'r llwybr brics newydd yn ateb deniadol, gwydn a hirhoedlog, tra'n sicrhau hygyrchedd a diogelwch i ddefnyddwyr.

Path refurbishment

Gwnaeth cyllid gan y Gronfa Effaith Balchder Bro helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn YMCA Porthcawl.  

Diolch i'r grant, mae'r YMCA wedi gallu newid y boeler 14 oed am system newydd, fwy effeithlon o ran ynni.  

Mae hyn yn golygu lle cynhesach, mwy croesawgar a mwy cyfforddus i'r bobl niferus sy'n defnyddio'r YMCA bob wythnos – o fabanod a phobl ifanc i breswylwyr hŷn, gyda thua 25 o grwpiau gweithgareddau yn defnyddio'r adeilad ochr yn ochr â gweithgareddau ieuenctid rheolaidd.  

Mae'r cyllid wedi helpu i wneud gwelliant hanfodol a fydd o fudd i ymwelwyr a staff, yn enwedig wrth i fisoedd oerach yr hydref a'r gaeaf agosáu. 

New boiler and staff at YMCA

Mae cyllid o'r Gronfa Effaith Balchder Bro wedi helpu i wella diogelwch ym maes parcio Cyngor Tref Pencoed yn sylweddol drwy osod goleuadau colofn, gan fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan drigolion.

Mae'r goleuadau’n sicrhau profiad mwy diogel i ddefnyddwyr y maes parcio, yn enwedig yn y nos ac yn ystod y gaeaf. 

Mae llawer o drigolion oedrannus yn defnyddio'r maes parcio i gael mynediad i ganol y dref a'r neuadd les gyda'r nos, gyda rhai’n dweud nad oedden nhw’n gallu dod o hyd i'w cerbyd, ac eraill yn poeni am beryglon baglu cyn gosod y goleuadau.

Chwilio A i Y

Back to top