Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru

Mae Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru (CDEN) ar gael i grwpiau cymunedol cyfansoddedig, elusennau, Eglwysi, Capeli a Mannau Addoli Cyhoeddus sy'n gweithredu yn ardaloedd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr a Phen-y-bont ar Ogwr. 

Rhaid i sefydliadau ddarparu gweithgareddau sydd â budd uniongyrchol hirdymor i drigolion a chymunedau yn yr ardaloedd hyn a rhaid iddynt fod yn agored i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol.

Ni all sefydliadau sydd naill ai wedi'u trwyddedu i werthu alcohol; sydd â thystysgrif adeilad clwb; sy’n gweithredu o gyfeiriad preswyl neu sy’n gorff statudol (gan gynnwys cynghorau tref a chymuned) wneud cais.

Mae tair lefel o gyllid ar gael: 

Categori

Gall y Gronfa Gyfrannu

Cyfraniad Gofynnol gan yr Ymgeisydd

Safonol - Bach

100% tuag at gyfanswm cost cymwys y prosiect hyd at uchafswm grant o £3,000 

0%

Safonol - Canolig

Hyd at 90% tuag at gyfanswm cost cymwys y prosiect hyd at uchafswm grant o £15,000 

O leiaf 10%

Sylweddol - Mawr

Hyd at 80% tuag at gyfanswm cost cymwys y prosiect hyd at uchafswm grant o £50,000 

O leiaf 20%

Sefydlwyd y Gronfa gyda'r elw a'r asedau o ddadsefydlu Eglwys Loegr yng Nghymru ac fe'i gweinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Cysylltu

Ffôn: 01443 281124
Cyfeiriad ebost: regeneration@rctcbc.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top