Sefydliad cyflawni: Plant yng Nghymru
Cysylltodd a gweithiodd y prosiect hwn gyda phlant a phobl ifanc 11-25 oed ar draws y fwrdeistref sirol i ystyried a mapio gwybodaeth gyfredol, cyfleoedd a bylchau neu rwystrau posibl mewn perthynas â deall ymgysylltiad pobl ifanc â democratiaeth mewn cyd-destun lleol.
Mae plant a phobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect wedi cyd-gynhyrchu, datblygu a phrofi adnoddau i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth i blant a phobl ifanc eraill.
Bwriad datblygu adnoddau yw codi ymwybyddiaeth o brosesau democratiaeth leol a chynyddu ymgysylltiad pobl ifanc â phrosesau democrataidd (gan gynnwys deall pleidleisio a haenau llywodraeth, craffu ac o bosib sefyll ar gyfer etholiad) a thrwy hynny gysylltu trigolion â phrosesau dinesig.
I'r rhai sy'n cymryd rhan, mae'r prosiect yn gyfle i ennill sgiliau, adeiladu hunanhyder a theimlo’r gallu i gael mynediad at eu hawliau a chael eu clywed.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.