Sefydliad cyflawni: The Means
Recriwtiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr arbenigwyr The Means i ymgymryd ag ymarfer ymchwil a mapio o weithgareddau datblygu cymunedol a thrydydd sector yn y fwrdeistref sirol.
Ymchwiliodd y prosiect i elusennau, grwpiau cymunedol, cynghorau cymuned a thref, rhwydweithiau, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol yn yr ardal i helpu i dynnu sylw at ba waith gwirfoddol sy'n cael ei wneud, ble mae'r bylchau a dadansoddi dulliau o gyflawni llwyddiant cymunedol.
Roedd yr ymchwil hanfodol yn allweddol wrth helpu i siapio rhaglenni datblygu cymunedol ar gyfer y dyfodol.
Edrychodd yr ymarfer mapio ar weithgareddau datblygu cymunedol presennol.
Casglodd yr arolwg farn gan sefydliadau cymunedol i helpu i nodi rhwystrau i'w haelodau a gefnogir, edrych ar ba faterion nad ydynt yn cael eu hystyried a pha gymorth sydd ei angen i alluogi gwytnwch parhaus cymunedau.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.