Economi Bwyd Cynaliadwy

Sefydliad cyflawni: The Wellbeing Planner

Nod y prosiect oedd sefydlu Rhwydwaith Economi Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr.

Y weledigaeth oedd economi bwyd lleol ffyniannus, cynaliadwy sy'n lleihau’r ddibyniaeth ar fewnforion, yn cynyddu cynhyrchiant bwyd ar raddfa fach, ac yn sicrhau bod bwyd a dyfir yn lleol yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb.

Eu nod oedd adeiladu economi a oedd yn lleihau gwastraff bwyd, yn cofleidio arloesedd ac yn grymuso cymunedau i wneud dewisiadau gwybodus sydd o fudd i iechyd lleol, busnesau a'r amgylchedd.

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth honno, lluniodd y grŵp y cynllun canlynol:

  • Creu Rhwydwaith Economi Bwyd Cynaliadwy Pen-y-bont ar Ogwr - dan arweiniad rhanddeiliaid.
  • Adeiladu capasiti a dealltwriaeth o'r problemau ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
  • Codi ymwybyddiaeth a llywio penderfyniadau ar bob lefel.
  • Sefydlu ymyriadau lleol a fyddai'n hysbysu ac ysbrydoli pobl a phenderfyniadau.
  • Annog cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol i weithio'n agos gyda sefydliadau angori’r sector cyhoeddus yn y sir.
Sustainable food economy events

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Chwilio A i Y

Back to top