Sefydliad cyflawni: Tanio
Cynhaliodd Tanio Ddiwrnod Hwyl Cymunedol yng Nghwm Garw gyda gweithgareddau creadigol, celfyddydol a chwaraeon.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed y Betws a Chlwb Ieuenctid Cwm Garw, fe wnaethon nhw gynnal sesiynau drymio, celf a chrefft, pêl-droed 5 bob ochr, peintio wynebau, Celf Coedwig a mwy, ac roedd y cyfan am ddim.
Dywedodd pob un o'r sefydliadau fod y digwyddiad wedi cyrraedd mwy o bobl nag y gallen nhw fod wedi'i wneud ar eu pen eu hunain, a gwnaethant ymgysylltu ag aelodau newydd o'r gymuned nad oedden nhw wedi gweithio gyda nhw o'r blaen. Roedd y digwyddiad yn gyfle diddorol, difyr, am ddim i deuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd.
Yn ogystal, cynhaliodd Tanio gyfres o weithdai ymdrochol yn eu hadeilad yn y Betws. Dyluniwyd y gweithdai ar gyfer pobl sy'n byw gydag Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog, a chrëwyd byd hudolus o archwilio iddyn nhw. Cyfunwyd straeon, cerddoriaeth a drama gyda phrofiadau synhwyraidd i greu awyrgylch bywiog a chyffrous, lle roedd pawb yn perthyn.
Llun gan: Chris Lloyd
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.