Gweithgareddau Peirianneg a Gweithgynhyrchu

Rhaglen o weithdai STEM ar gyfer ysgolion uwchradd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd disgyblion wrth ennyn eu diddordeb mewn llwybrau STEM.
 
Dewisodd ysgolion o blith ystod o weithgareddau diddorol yn cyfuno agweddau ar ddatrys problemau, creadigrwydd, codio, a gwaith tîm yng nghyd-destun heriau peirianneg a gweithgynhyrchu’r byd go iawn.  
Roedd y sesiynau’n ymarferol, yn ddeinamig, ac wedi'u gwreiddio mewn senarios sy'n annog disgyblion i feddwl yn feirniadol a chymhwyso cysyniadau STEM mewn ffyrdd ymarferol.  Cafodd disgyblion gyfle hefyd i roi cynnig ar ddulliau gweithredu newydd ac archwilio offer nad ydynt fel arfer yn dod ar eu traws, i gyd o fewn amgylchedd diogel a chyfarwydd eu hysgol eu hunain.
 
Mae'r gweithdai fel arfer yn rhedeg am 1 i 2 awr ac roeddent wedi’u halinio'n bennaf â’r Cwricwlwm i Gymru yng Ngham Dilyniant 4.

Drwy weithio'n uniongyrchol mewn ysgolion, mae CAPC STEM Cymru yn lleihau'r rhwystrau i gyfranogiad ac yn cefnogi ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i baratoi disgyblion ar gyfer gyrfaoedd mewn sectorau sy'n hanfodol i economi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.  

Child creating a robot
Children using a laptop

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cysylltu

Facebook: @EESWSTEMCymru

Chwilio A i Y

Back to top