Lles i Ofalwyr

Gwnaeth y prosiect hwn ddarparu amrywiaeth o weithgareddau lles creadigol, cynhwysol ar gyfer gofalwyr di-dâl.  

Roedd y cyfleoedd yn cefnogi gofalwyr o 5 oed i fyny ac yn cynnwys gofalwyr ifanc, oedolion ifanc sy’n gofalu, gofalwyr rhieni, gofalwyr sy’n oedolion a gofalwyr hŷn ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd gweithgareddau eu hwyluso a'u cefnogi gan staff cymorth gofalwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid allanol.

Roedd y gweithgareddau’n cynnwys:

  • Grwpiau misol i ofalwyr ifanc ar gyfer plant 5 i 12 oed
  • Gweithgareddau i oedolion ifanc sy’n gofalu
  • Sesiynau gofalwyr rhieni a lles plant yn Steer
  • Sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar yn yr awyr agored gyda Valley Steps ym Mharc Bryngarw
  • Caffi cymunedol wythnosol
  • Taith haf gofalwyr i'r ardd fotaneg
  • Clwb Lego misol ar gyfer gofalwyr, gofalwyr rhieni, gofalwyr brodyr a chwiorydd a theuluoedd
  • Crefftau blodau gwyllt misol ar gyfer gofalwyr rhieni
Trip to botanical gardens
Marshmallow roasting

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Logo: Bridgend Carers Centre logo

Cysylltu

Facebook: @bridgendcarers

Chwilio A i Y

Back to top