Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr

Sefydliad cyflawni: Whitehead Ross Education

Gweithiodd Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr gyda phobl ddi-waith ac economaidd anweithgar, gan eu cefnogi gyda lleoliadau gwaith mewn busnesau bach ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  

Helpodd y prosiect 76 o bobl i ennill profiad gwaith gwerthfawr, a chynigiwyd swyddi i'r mwyafrif o'r rhain ar ddiwedd eu lleoliadau.  

Gyda chyflogau wedi'u talu am 25 awr yr wythnos am hyd at 6 mis, roedd y cynllun yn ffordd risg isel i gyflogwyr lleol dreialu rolau newydd ac ehangu'r gweithlu. Roedd cyfranogwyr hefyd yn cael mynediad at gronfa hyfforddi gwerth £500, gan roi sgiliau newydd iddynt i'w helpu gyda’u lleoliadau a'u cyflogaeth yn y dyfodol.

Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o'r prosiect gan Miller Research. I lawer o gyfranogwyr, roedd y lleoliadau’n allweddol i'w helpu i sicrhau rolau na fyddent fel arall wedi cael eu hystyried amdanynt.

Nododd bron pob cyflogwr a arolygwyd na fyddent wedi creu'r rolau heb y cymorth gan Quickstart ac y byddent wedi bod yn annhebygol o ystyried cyflogi pobl heb fawr o brofiad blaenorol, os o gwbl.

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Chwilio A i Y

Back to top