Sefydliad cyflawni: Baobab Bach
Mae Baobab Bach yn cynnig bwyd fforddiadwy i gymunedau trwy Bantrïau Cymunedol.
Mae ganddynt dri Phrosiect Tyfu - dau ohonynt yn lleiniau mawr yng Nghanolfan Gofal Dydd y cyngor a Rhandiroedd Cymunedol Bronfair ym Maesteg.
Er mwyn gwneud y mwyaf o botensial tyfu’r ddwy brif lain hon, roedd angen gwelyau uchel cadarn, ynghyd â philen chwyn, uwchbridd, compost a thwnnel polythen.
Defnyddiwyd y cyllid i brynu'r offer angenrheidiol ar gyfer adeiladu'r gwelyau uchel yn y ddau leoliad ac ar gyfer y twnnel polythen newydd. Prynwyd ychydig o eitemau eraill fel gât ar gyfer rhandir y Garth a mainc bicnic i wirfoddolwyr hefyd.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.