Mae newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff dros gyfnod gwyliau’r Pasg. Casgliadau ailgylchu a gwastraff.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid ein bod, gyda'n gilydd, yn cydnabod ac yn deall y dylai'r rhai sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac sydd yn gwasanaethu ar hyn o bryd, a'u teuluoedd gael eu trin yn deg a pharchus yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas maent yn eu gwasanaethu ynddynt.
Mabwysiadwyd Cyfamod y Lluoedd Arfog gan y cyngor yn 2013. Cynhaliwyd seremoni ail-lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog ddydd Gwener, 23 Mehefin 2023.
Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog
Ein hyrwyddwr lluoedd arfog yw'r Cynghorydd Martyn Jones.
Gwaith yr hyrwyddwr yw codi proffil cymuned y lluoedd arfog ac mae'n gweithio er mwyn cael gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'i phroblemau.
Mae'n eirioli drosti, ac yn sicrhau bod ei buddion yn cael eu hystyried a'u blaenoriaethu yn ein polisïau a'n strategaethau.
Rydym yn falch o allu atgyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi aelodau presennol y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd oll wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n cymunedau. Dros y deg mlynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn weithredol o ran datblygu ein perthynas gyda chymuned y Lluoedd Arfog a sefydliadau eraill, gan gynnig cefnogaeth gydag addysg, iechyd a lles, tai, cyngor ariannol, gyrfaoedd a gostyngiadau i brisiau gwasanaethau, a byddwn yn parhau i geisio ei gwneud hi’n haws gwneud defnydd o’n cymorth a chefnogaeth yn y gymuned leol.
Dolenni defnyddiol
Pryd: Ail ddydd Sadwrn bob mis
Ble: Toby Carvery, Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3UL
Cyfle i gyfarfod cyn-filwyr ac aelodau o Luoedd Arfog Ei Fawrhydi ar gyfer rhwydweithio a chymdeithasu dros frecwast.
Mae’r clwb yn cyfarfod ar ail ddydd Sadwrn bob mis ar gyfer brecwast am 9:30am.
"Roedd yn bleser cyfarfod yn ddiweddar â chyn-filwyr am frecwast yn y Toby Carvery. Grŵp anhygoel o gyn-filwyr a oedd yn hynod o falch o gynrychioli eu grŵp. Os ydych chi’n gyn-filwr ac eisiau cyfarfod â’ch cyn-filwyr, mae croeso cynnes i chi.” - Cyng. Martyn Jones, Eiriolwr Lluoedd Arfog
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â thudalen Facebook y clwb: Clwb Brecwast cyfunedig y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Pen-y-bont ar Ogwr.
Dyma nodau Fforwm y Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr:
- monitro cyflawni amcanion y cyfamod
- parhau i adnabod anghenion y personél gwasanaethu presennol a’r cyn-bersonél, a’u teuluoedd
- ystyried ac asesu addasrwydd unrhyw geisiadau i Gynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog, cyn eu cyflwyno’n ffurfiol
- gwella’r rhannu a’r cofnodi ar wybodaeth am ein lluoedd arfog
- Mentoriaid Cymorth y Lluoedd Arfog ymroddedig i groesawu a gweithio gyda chi i wella eich lles
- Mynediad AM DDIM i'r gampfa - dros 15 o ddosbarthiadau’r wythnos.
- Digwyddiadau Cymdeithasol wedi'u Trefnu
- Cymorth Un-i-Un
- Grŵp Cerdded Wythnosol
- Sgiliau Cyflogadwyedd – e.e. Ysgrifennu CV a Thechnegau Cyfweliad
- Cyfeirio at bartneriaid cymorth a all helpu i oresgyn rhwystrau fel bwyd, tai, pensiynau a llawer mwy.
- Gellir trefnu diwrnodau meithrin tîm ar eu cwrs rhwystrau eu hunain
- Rhannwch eich straeon
- Cymdeithasu, digwyddiadau a boreau coffi
- Trefnu, cydlynu a hyrwyddo digwyddiadau
Sgwrs, help, neu dim ond paned.
Hiwmor da, cystadleuaeth rhwng cartrodau a direidi. Te, coffi, bisgedi, ymlacio a sgwrsio.
Gwersylla yn y gwyllt, sgiliau byw a goroesi yn y gwyllt neu cydiwch mewn bag tywod a chael paned braf yng nghanol coetir hardd.
Cyfarfod misol i unrhyw Gyn-filwr Lluoedd Arfog y DU o unrhyw gyfnod, am frecwast, cwrw a chlonc da.
Brecwast a chlwb cymdeithasol.
Sgwrs, help, neu dim ond paned a rhôl bacwn.
Rhandir Cymunedol Cyn-filwyr.
- Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAF)
- Lleng Brydeinig Frenhinol Pen-y-bont ar Ogwr
- Newid Cam
- GIG Cymru i Gyn-filwyr
- Cefnogaeth i aelodau presennol y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd gan Lywodraeth Cymru
- Llywodraeth Cymru- Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
- Mae gan dudalen Gov.UK am Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog
- Gov.uk - Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog CLILC - Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr
Mae'r Wobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi bod yn weithgar wrth ddangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.
Er mwyn ennill y wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o'u polisïau recriwtio.
Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu'n ymwybodol o'u polisïau cadarnhaol tuag at faterion gweithwyr Amddiffyn sy’n berthnasol i filwyr wrth gefn, cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr gyda Lluoedd y Cadetiaid (Oedolion), a phriod a phartneriaid y rhai sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Testun balchder mawr i Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yw derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwr, sy'n dangos ein hymrwymiad i gymuned y lluoedd arfog, megis drwy gynnig gwyliau i'r rhai sy'n gwasanaethu wrth gefn a'r cynllun gwarantu cyfweliad.
Rydym yn cydnabod bod gennym rôl i'w chwarae fel cyflogwr i gynorthwyo'r rhai sy'n gadael y Lluoedd Arfog i gyflawni eu potensial mewn bywyd dinesig.
Rydym wedi gweithio â milwyr wrth gefn a chyn-filwyr i ddysgu ganddynt a pharhau i weithio fel sefydliad sy'n rhannu gwerthoedd tebyg i'r lluoedd arfog, wrth gynnig sefydlogrwydd a chydbwysedd mewn bywyd personol a gwaith, sydd mor bwysig.