Cynllun Rheoli Cyrchfannau

Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) yn ddatganiad a rennir o fwriad i reoli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr rhwng 2022 a 2027. 

Ers cynhyrchu’r CRhC diwethaf, mae newid sylweddol wedi digwydd ar lefelau byd-eang, cenedlaethol a lleol, gyda phandemig Covid-19, Brexit a chynnydd mewn costau byw. Mae pob un o’r rhain wedi bod â goblygiadau i’r diwydiannau twristiaeth a lletygarwch. Mae’r heriau presennol yn gyfe gwych i baratoi CRhC ar ei newydd wedd i helpu i symud tuag at adferiad. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) wedi nodi twristiaeth fel rhan o’i economi sylfaen gydag ymateb adfer sy’n cynnwys ffrydiau cyllido ychwanegol, prosiectau amwynder cyhoeddus, uwchraddio seilwaith a chefnogaeth i’r sector llety. Er bod llawer wedi newid, mae llawer o botensial ar gyfer y dyfodol hefyd. 

Bydd CBSP yn gweithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru, endidau rhanbarthol fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Pharc Rhanbarthol y Cymoedd, awdurdodau cyfagos a rhanddeiliaid allweddol fel cynghorau tref a chymuned, darparwyr llety, atyniadau twristiaeth, darparwyr gweithgareddau a busnesau lleol eraill sy’n
cefnogi’r economi ymwelwyr.

Cynllun Rheoli Cyrchfannau

Chwilio A i Y

Back to top