Cynllun Strategol y Gyfarwyddiaeth Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc

Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Er bod y gyfarwyddiaeth yn falch o’r gwaith y mae’n ei wneud, rydym yn cydnabod bod llawer o heriau yn 
parhau os ydym am sicrhau bod ein gwasanaethau addysg, blynyddoedd cynnar a phobl ifanc yn gallu 
addasu i ddiwallu anghenion ein preswylwyr.

Mae’r cynllun strategol hwn yn nodi ein huchelgeisiau ar gyfer dyfodol gwasanaethau addysg, blynyddoedd 
cynnar a phobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn dwyn ynghyd ein huchelgeisiau a’n nodau gweithredol 
i fynd i’r afael ag effaith tlodi a chefnogi pobl i fyw bywydau iachach a llewyrchus.

Ein nod yw sicrhau tegwch a rhagoriaeth i bawb.

Education and Family Support Directorate Strategic Plan cover

Chwilio A i Y

Back to top