O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Strategaeth Ddigidol
Mae ein Strategaeth Ddigidol yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cael Cyngor Digidol sy’n cydnabod uchelgais strategaeth ‘Digidol yn Gyntaf’ Llywodraeth Cymru Strategaeth Drawsnewid Llywodraeth y DU ac yn alinio gyda hwy.
Mae Amcanion Llesiant Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr wedi'u hymgorffori yn nodau ac amcanion y Strategaeth Ddigidol.
Nid yw'n ymwneud yn gyfan gwbl â chynllunio prosesau er hwylustod i ni nac o amgylch ein strwythurau mewnol ond mae'n canolbwyntio ar fod yn wirioneddol ganolog i ddinasyddion, yn effeithlon ac yn addas i'r diben, gan wneud defnydd doethach o adnoddau drwy drawsnewid a gynorthwyir gan dechnoleg.

Nodau
Nodau Pen-y-bont ar Ogwr, fel Cyngor sy'n aeddfed yn ddigidol fydd:
- Integreiddio systemau, lleihau dyblygu a lleihau mewnbwn â llaw gan anelu at sicrhau bod dinasyddion yn adrodd eu stori wrthym 'unwaith' yn unig.
- Darparu swyddogaeth ddigidol hunan-wasanaeth glir a greddfol drwy Fy Nghyfrif sydd ar gael 24/7 gyda chyfranogiad staff dim ond pan fydd ei angen ar y defnyddiwr neu lle mae'n ychwanegu gwir werth.
- Sicrhau bod dinasyddion wedi’u harfogi’n well i reoli sefyllfaoedd eu hunain, gan ryddhau ein staff i ganolbwyntio ar y rhai mwyaf anghenus.
- Rhoi'r offer cywir i'n staff i alluogi diweddaru’r wybodaeth a'r cysylltedd sydd eu hangen ar gyfer gweithio ystwyth iawn mewn amser real.
- Nodi tueddiadau a heriau hirdymor yn y dyfodol a bod yn barod yn ddigidol a'u galluogi i ymateb i'r heriau hyn.
- Croesawu gwasanaethau cwmwl a fydd yn darparu seilwaith mwy gwydn i ddiogelu ein gweithrediadau yn y dyfodol.
- Sicrhau ail-ddylunio gwasanaethau o'r dechrau i'r diwedd gyda phwyslais ar anghenion dinasyddion, ymgorffori manteision cymunedol a chyfleu'r rhain wrth i ni symud ymlaen.
- Integreiddio systemau gan sicrhau eu bod yn 'siarad' â'I gilydd, gan leihau dyblygu a lleihau mewnbwn â llaw drwy awtomeiddio lle bo modd.
- Gweithio fel 'Un Cyngor' ac annog gwahanol rannau o'r sefydliad i beidio â datblygu prosesau lluosog neu seilos diangen.
- Profi'r farchnad ddigidol i gaffael y dechnoleg a'r gwasanaethau sy'n dod i'r amlwg sydd eu hangen i ddod yn Gyngor sy'n aeddfed yn ddigidol.
- Sicrhau gwerth am arian drwy wneud defnydd doethach o adnoddau.
- Gosod targedau clir ac uchelgeisiol ar gyfer cyflawni ffrydiau gwaith digidol.