Cynllunio ar gyfer Argyfyngau

Er nad yw argyfyngau mawr yn digwydd yn aml, mae’n hanfodol bod y cyngor wedi paratoi i ymateb yn effeithiol pan fyddant yn digwydd er mwyn cefnogi ein cymunedau i ymdopi ac adfer ar ôl digwyddiad.

Mae’r Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Argyfyngau yn gyfrifol am gefnogi gweddill y cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau cyfreithiol dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004) drwy:

  • Asesu risgiau lleol fel ein bod yn gwybod ar gyfer beth i gynllunio.
  • Ysgrifennu a chynnal cynlluniau ar gyfer argyfyngau.
  • Sicrhau bod gennym gynlluniau ar waith fel y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod argyfwng.
  • Rhoi cyngor i fusnesau lleol i’w helpu nhw i barhau i redeg eu busnes yn ystod digwyddiadau sy’n tarfu.
  • Cyfathrebu â’r cyhoedd drwy rybuddio a rhannu gwybodaeth am argyfyngau posibl, a rhoi gwybod iddynt beth allent wneud gartref i baratoi.
  • Gweithio’n agos gydag asiantaethau partner megis y Gwasanaethau Brys ac Iechyd, a rhannu gwybodaeth berthnasol â nhw am y risgiau a wynebwn ledled y Fwrdeistref Sirol.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth ar ddyletswydd 24 awr y dydd, ac yn cydlynu ymateb cychwynnol y cyngor.

Yn ogystal â Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, mae’r rheoliadau statudol penodol canlynol hefyd yn berthnasol:

Gov.uk Prepare

Mae Gov.uk/prepare yn adnodd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a grëwyd i roi cyngor i'r cyhoedd ar gamau y gallant eu cymryd i fod yn fwy parod ar gyfer argyfyngau.

Fe'i ddatblygwyd gan Gyfarwyddiaeth Gwydnwch Swyddfa'r Cabinet, mewn partneriaeth ag arbenigwyr o bob rhan o lywodraeth leol a chenedlaethol, y gymuned ymatebwyr, sefydliadau'r sector gwirfoddol a'r byd academaidd.

Chwilio A i Y

Back to top