Bydd casgliadau gwastraff yn dechrau yn gynt na'r arfer am 6yb ddydd Gwener 10 Gorffennaf i helpu i amddiffyn y criwiau rhag tymereddau cynyddol - Diweddariadau casglu
Adolygiadau Ffiniau
Gwybodaeth am adolygiadau ffiniau cyfredol a blaenorol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyngor cymuned Laleston – adolygiad o’r trefniadau etholiadol
Mae'r cyngor yn ymgynghori ynghylch newid trefniadau etholiadol a llywodraethu Cyngor Cymuned Trelales, yn dilyn cais gan y Cyngor Cymuned ei hun. Nod yr adolygiad hwn yw ailedrych ar y cydraddoldeb rhwng y wardiau, yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr etholwyr ar gyfer yr ardal hon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Y bwriad wedyn yw i hyn ddod i rym mewn pryd ar gyfer yr Etholiadau Lleol ym mis Mai 2027.
Mae tair ward yng Nghyngor Cymuned Trelales: Cefn Glas 1, Cefn Glas 2 a Trelales/Bryntirion. Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn newid y wardiau hyn nac yn ystyried unrhyw newidiadau i'r ffiniau.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Cymuned Trelales wedi ei rannu fel a ganlyn:
| Cyngor Cymuned Trelalas | Nifer Etholwyr y Cyngor | Nifer presennol y Cynghorwyr | Cymhareb Cynghorydd/Etholwyr |
|---|---|---|---|
| Cefn Glas 1 | 1,411 | 4 | 353 |
| Cefn Glas 2 | 1,861 | 4 | 465 |
| Trelales/Bryntirion | 7,046 | 5 | 1,409 |
Mae Cylch Gorchwyl yr adolygiad hwn – sy'n egluro sut y caiff yr adolygiad ei gynnal – ar gael isod, ac mae copïau papur hefyd ar gael i'w gweld yn nerbynfa'r Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel.
Cam cyntaf yr adolygiad hwn yw gwahodd y cyhoedd i gyflwyno unrhyw gynigion neu newidiadau a all fod ganddynt i gynorthwyo'r cyngor i baratoi adroddiadau drafft.
Gellir ymateb drwy anfon:
Mae’n rhaid i bob adborth gael ei gyflwyno cyn 23:59 ar 7 Awst 2025.