Etholiadau Senedd Cymru

Disgwylir i newidiadau sylweddol ddod i rym cyn y polau nesaf yn y Senedd sydd wedi'u trefnu ar ddydd Iau 7 Mai 2026. Mae'r hyn sydd angen i chi ei wybod i'w weld ar dudalen Cyfri’r dyddiau tan Etholiad y Senedd 2026: Pum peth i chi eu gwybod Senedd Cymru.
 
Bydd gan Gymru 16 o etholaethau yn hytrach na'r 40 o etholaethau presennol. Creodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yr etholaethau newydd i Gymru.  
 
Bydd gan y Senedd 96 o Aelodau yn hytrach na 60. Bydd pob etholaeth yn ethol chwe Aelod. 

  • Bro Morgannwg, penderfynodd y Comisiwn y dylid creu etholaeth sirol o: Etholaeth Seneddol y DU Pen-y-bont ar Ogwr ac etholaeth Seneddol y DU Bro Morgannwg. Dynododd y Comisiwn yr enw unigol Pen-y-Bont Bro Morgannwg ar gyfer yr etholaeth hon.
  • Afan Ogwr Rhondda, penderfynodd y Comisiwn y dylid creu etholaeth sirol o: Etholaeth Seneddol y DU Aberafan Maesteg ac etholaeth Seneddol y DU Rhondda a Ogmore. Dynododd y Comisiwn yr enw unigol Afan Ogwr Rhondda ar gyfer yr etholaeth hon.
Logo Senedd

System bleidleisio newydd

Enw’r system bleidleisio newydd yw 'system rhestr gyfrannol gaeedig'. Mae hyn yn golygu eich bod yn pleidleisio dros blaid wleidyddol (yn hytrach nag unigolion) neu ymgeisydd annibynnol.

Bydd y papur pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth, fel y gallwch weld pwy rydych yn pleidleisio drosto. Os bydd plaid yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill un neu fwy o seddi yn y Senedd. Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, bydd yn ennill sedd yn y Senedd.

Bydd seddi yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.

Pwy gaiff bleidleisio yn yr etholiad hwn

I bleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio.

Ar ôl cofrestru, gall y canlynol bleidleisio yn Etholiad y Senedd ar ddydd Iau 7 Mai 2026:

  • Y rhai sy’n 16 oed neu’n hŷn
  • Dinasyddion Prydeinig neu Wyddelig neu ddinassyddion cymwys o’r Gymanwlad
  • Dinasyddion yr UE
  • Dinesydd tramor cymwys (dinesydd tramor cymwys yw dinesydd gwlad arall sydd â chaniatâd i fynd i mewn neu aros yn y DU, neu nad oes angen caniatâd o'r fath arno)

Nid oes angen ID Pleidleisiwr arnoch i allu pleidleisio yn yr etholiad hwn.

Dyddiadau allweddol

  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio: Dydd Llun 20 Ebrill 2026 
    • Os ydych chi wedi symud gartref yn ddiweddar a heb gofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn dydd Llun 20 Ebrill 2026

  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio drwy'r post neu drwy'r post drwy ddirprwy: Dydd Mawrth 21 Ebrill 2026, 5pm

  • Dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy (nid trwy ddirprwy mewn argyfwng): Dydd Mawrth 28 Ebrill 2026, 5pm

  • Gallai pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng fod ar gael ar ôl 5pm ar ddydd Mawrth 28 Ebrill 2026 hyd at 5pm ar ddydd Iau 7 Mai 2026 ond dim ond o dan amgylchiadau esgusodol penodol, dewch o hyd i fanylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu ffoniwch 01656 643116.

  • Diwrnod Pleidleisio: Dydd Iau 7 Mai 2026, bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm

Chwilio A i Y

Back to top