Fy Nghyfrif

Gwasanaeth personol ar gyfer trigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Fy Nghyfrif.

Gyda Fy Nghyfrif gallwch:

  • Adrodd ar faterion ar-lein, yn cynnwys tyllau yn y ffordd a goleuadau stryd neu arwyddion ffyrdd wedi'u difrodi
  • Gweld a rheoli eich cyfrif treth gyngor
  • Rheoli eich budd-dal tai a gostyngiad treth gyngor - Gwneud cais, gweld a newid eich manylion
  • Gwneud cais am ymweliad rheoli pla (eiddo domestig yn unig)
  • Gwneud cais am dderbyniadau i’r ysgol
  • Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
  • Cofrestru ar gyfer e-filiau - Yn ogystal â derbyn eich biliau yn gyflymach, gallwch hefyd weld eich hen filiau ar-lein

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Gallwch gofrestru’n gyflym a hawdd, cyfeiriad e-bost yw’r cyfan sydd ei angen arnoch.

Mewngofnodi i Fy Nghyfrif

I fewngofnodi i Fy Nghyfrif nodwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair.

Saith mantais fawr e-filiau

Mae defnyddio e-filio i’ch biliau treth gyngor yn golygu y gallwch:

  • mynediad cynt i’ch biliau, cyn gynted ag y maent ar gael
  • cael budd o system ddiogel, breifat heb ddim yn mynd ar goll yn y post
  • cael tawelwch meddwl, yn hytrach na meddwl pa bryd y bydd eich bil yn cyrraedd
  • mynediad i’ch biliau ar-lein, unrhyw bryd
  • cael gwybod drwy e-bost cyfleus, gyda dolen i’ch bil ar-lein
  • bob amser gwybod ble mae’ch hen filiau, gan fod Fy Nghyfrif yn cadw popeth
  • helpwch yr amgylchedd drwy beidio ag argraffu bil papur

Cwestiynau Cyffredin

Ceisiwch roi eich manylion eto neu edrych yn eich ffolder e-byst sothach.

Rhaid defnyddio’r e-bost a’r cyfrinair a ddefnyddioch i greu eich cyfrif.

Sicrhewch fod eich cyfrif yn weithredol drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost a gawsoch wrth gofrestru.

Gallwch ail-osod eich cyfrinair ar-lein.

I wneud hyn, bydd angen i chi gael mynediad i’r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd i sefydlu’r cyfrif.

Mae modd newid eich cyfeiriad e-bost cofrestredig drwy fewngofnodi i Fy Nghyfrif, dewis eich enw ar frig y sgrin ac yna ‘Newid E-bost’ o’r gwymplen.

  1. Cyn i chi allu cofrestru cyfrif treth gyngor, mae'n rhaid i chi fewngofnodi/cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif. 

  2. Ar ôl i chi fewngofnodi, dewiswch 'Gwasanaethau' ac wedyn 'Treth Gyngor a Budd-daliadau' ac wedyn 'Cyfrif treth gyngor'. Bydd hyn yn mynd â chi i'r porth treth gyngor.

  3. Gallwch gofrestru eich treth gyngor drwy ddewis 'Cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau treth gyngor ychwanegol' neu 'Dywedwch wrthym pwy ydych chi'.

  4. Dewiswch 'Person' ac yna nodwch rif eich Cyfrif Treth Gyngor.  Bydd hwn yn rhif wyth digid yn dechrau gyda dau neu dri. Gallwch ddod o hyd i'r wybodaeth honno ar eich bil. Pan fyddwch chi wedi dewis person, gofynnir i chi nodi eich enw cyntaf a'ch olaf. Rhaid i'r rhain gyd-fynd â'r enw ar y bil.  Dewiswch ‘Nesaf’.

  5. Atebwch ddau gwestiwn diogelwch.  Dewiswch ‘Nesaf’.

  6. Gwiriwch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir.

  7. Darllenwch a llofnodwch y Telerau ac Amodau a chlicio ‘Cytuno’.

  8. Cliciwch ‘Cyflwyno’.

  9. Rhowch eich 'Cyfeiriad e-bost' a’i ailadrodd eto i 'Cadarnhau eich cyfeiriad e-bost'

  10. Dewis 'Ie neu Na' i wneud cais am filiau di-bapur

  11. Ticiwch y blwch i gytuno i’r telerau ac amodau

Bydd manylion eich Cyfrif Treth Gyngor yn arddangos.  Yma gallwch weld eich biliau, sefydlu / diwygio debydau uniongyrchol a gwneud taliadau, o blith yr opsiynau sydd ar gael.

Os hoffech ddychwelyd i Fy Nghyfrif cliciwch 'Dychwelyd i’r Porth ALl'.

Os cewch unrhyw anawsterau wrth ddefnyddio Fy Nghyfrif oherwydd materion  hygyrchedd, cysylltwch â myaccountsupport@bridgend.gov.uk

Wrth gofrestru i weld manylion eich cyfrif treth gyngor, gofynnir i chi nodi rhif cyfeirnod ac ateb ychydig o gwestiynau diogelwch. Rhaid i’r manylion hyn gyd-fynd â’r wybodaeth ar eich bil treth gyngor diweddaraf.

Sicrhewch fod gennych eich bil treth gyngor diweddaraf wrth law.

Cwblhewch ein ffurflen ‘cysylltwch â ni’ os nad ydych yn gallu dod o hyd iddo:

  • Dewiswch ‘Treth Gyngor’ o’r gwymplen
  • yna ‘Ble alla i ddod o hyd i fy rhif cyfeirnod?’

Os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol, mae eich rhif cyfeirnod treth gyngor ar eich cyfriflen banc ochr yn ochr â’r taliad.

Rhaid prosesu taliadau a chân nhw eu hychwanegu at eich cyfrif o fewn diwrnod gwaith.

Cofiwch hynny pan welwch chi'r balans ar Fy Nghyfrif.

Gall gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i dynnu symiau o’ch cyfrif banc.

Ni fydd yn bosibl gweld manylion eich cyfrif heb eich rhif cyfeirnod.

Os ydych chi’n cael budd-daliadau, ni fydd modd gweld eich cofnodion budd-daliadau heb eich rhif cyfeirnod neu rai manylion personol – er enghraifft, eich Rhif Yswiriant Gwladol.

Os na allwch ddod o hyd i’ch cyfeiriad:

  • Dewiswch ‘Methu dod o hyd i’r cyfeiriad’
  • teipiwch eich cyfeiriad

Os yw rhai o’ch manylion yn anghywir, mae modd eu newid yn Fy Nghyfrif:

  • Dewiswch ‘Croeso i Fy Nghyfrif’
  • yna ‘Fy Mhroffil’ o’r gwymplen

Os oes unrhyw fanylion ar eich bil yn anghywir, anfonwch e-bost at taxation@bridgend.gov.uk gan nodi rhif cyfeirnod eich treth gyngor a pha newidiadau y dylid eu gwneud.

Dyw'r meysydd ddim yn gwahaniaethu rhwng priflythrennau a llythrennau bach. Gallwch chi ddefnyddio'r ddau.

Bydd rhaid dechrau eto ar ôl 15 munud o ddiffyg gweithredu.

Ni fydd Fy Nghyfrif ar gael yn achlysurol wrth i ni roi ein data wrth gefn.

Byddwn ni’n cyhoeddi neges ar y wefan i roi gwybod i chi am ba hyd na fydd ar gael.

Os ydych yn cael trafferth defnyddio Fy Nghyfrif oherwydd problem hygyrchedd fel nam ar y golwg, cysylltwch â:

Chwilio A i Y

Back to top