Gorchymyn Prynu Gorfodol – Eiddo Gwag Hirdymor

Ar ôl derbyn y gymeradwyaeth Cabinet hon, gwnaed Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Caffael 44 Heol Castell-nedd, Maesteg) 2025 (“y Gorchymyn Prynu Gorfodol”) yn ffurfiol gan y Cyngor ar 24 Medi 2025.

Ar ôl gwneud y Gorchymyn Prynu Gorfodol, cyflwynodd y Cyngor yr hysbysiad statudol, y Gorchymyn Prynu Gorfodol a'r Datganiad o Resymau.

Mae'r hysbysiad statudol wedi'i osod yn y papur newydd lleol ac mae hysbysiadau safle wedi'u harddangos i hysbysebu'r Gorchymyn Prynu Gorfodol – mae'r hysbysiad yn rhoi manylion sut y gellir cyflwyno gwrthwynebiad i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.

Gellir gweld copïau o'r Gorchymyn Prynu Gorfodol, Map y Gorchymyn Prynu Gorfodol, y Datganiad o Resymau a dogfennau ategol yn Neuadd y Dref Maesteg, 27 Stryd Talbot, Maesteg CF34 9DA yn ystod oriau agor dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sadwrn 9:00yb - 5:00yh a dydd Iau a dydd Gwener 9:00yb - 5.30yh.

Chwilio A i Y

Back to top