O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Swyddi
Chwiliwch, darllenwch a gwnewch gais ar-lein am swyddi gwag diweddaraf y cyngor.
Y cyngor yw un o gyflogwyr mwyaf y fwrdeistref sirol, rydym yn cynnig ystod o fuddion sydd wedi’u cynllunio i ddenu, datblygu a gwobrwyo ein gweithwyr.

Swyddi gofal a gwaith cymdeithasol gwag
Edrychwch ar y swyddi gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol diweddaraf sydd ar gael a gwnewch gais ar-lein.

Swyddi arlwyo gwag
Ymunwch â gwasanaethau arlwyo wrth i ni barhau i gyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.

Swyddi gwag mewn ysgolion
Ewch i wefan eTeach i weld y swyddi gwag diweddaraf mewn ysgolion yn y fwrdeistref sirol.
Desg gymorth
Os oes angen cymorth arnoch neu os ydych chi’n cael trafferth cyflwyno cais, cysylltwch â’n Desg Gymorth:
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i greu diwylliant gweithle sy’n recriwtio, yn cadw, ac yn datblygu staff o gefndiroedd amrywiol. A thrwy hynny cynrychioli ein cymunedau, ac felly eu gwasanaethu’n well.
Rydym ni’n frwdfrydig am gydraddoldeb, wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ein staff, a chefnogi diwylliant cynhwysol sy’n caniatáu i bawb ddod â nhw eu hunain yn llwyr ac yn wirioneddol i’r gwaith.
Rydym ni wedi ymrwymo i recriwtio siaradwyr Cymraeg, pobl anabl, pobl sy’n uniaethu fel LHDTC+ a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fel rhan o’n hymrwymiad i fynd i’r afael â phrinder cynrychiolaeth ar draws pob lefel o’r sefydliad.
I ni, mae ‘cydraddoldeb’ yn golygu deall a mynd i’r afael â rhwystrau fel bod pawb yn cael cyfle teg i gyflawni hyd at eithaf eu gallu. Mae gennym ni drefniadau ar waith sy’n helpu i greu proses recriwtio lle gall pob ymgeisydd wneud ei orau.
Cewch ragor o wybodaeth am Gynllun Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar wefan gov.uk.
