Swyddi Gofal Cymdeithasol
Mae ein gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosibl, o fewn eu cartref neu sefydliadau preswyl eu hunain.
Rydym yn darparu gofal i bobl hŷn, oedolion gydag anableddau dysgu, a phlant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gofalu am eraill yn rôl werth chweil, gan gefnogi eraill i fyw bywydau mwy boddhaus. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i hyfforddi fel gweithiwr gofal.
Croesewir profiad, ond nid yw'n angenrheidiol; credwn mai sut un ydych chi fel person, a'r gwahaniaeth allwch chi ei wneud, sy'n bwysig.
"Wnes i erioed fwriadu cael gyrfa ym maes gofal, ac fe lwyddais i symud yn fy mlaen yn bennaf oherwydd fy mod i'n chwilio am y sialens nesaf, ond fel mae'n digwydd, dyna'r symudiad gorau wnes i erioed."

Gwasanaethau gofal cymdeithasol

Gofal Preswyl Oedolion
Mae ein gweithwyr cymdeithasol oedolion yn helpu pobl gyda phob agwedd ar eu bywydau bob dydd.
Nid yn unig y mae gweithio ym maes gofal cymdeithasol oedolion yn rôl werth chweil yn emosiynol, mae’n un o’r rolau mwyaf amrywiol hefyd. Mae gweithio gydag amrywiaeth o bobl gyda gwahanol anghenion gofal yn golygu bod pob diwrnod yn wahanol i'r nesaf.

Gofal Cymdeithasol Plant
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol plant yn gofalu am lesiant corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc mewn gofal.
Mae gweithiwr gofal plant, neu weithiwr plant, yn arbenigo mewn helpu plant bregus gydag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol i reoli eu gweithgareddau bob dydd a’u cadw’n ddiogel.

Gofal Cymdeithasol Cymunedol
Mae gweithwyr cefnogi gofal cartref yn helpu pobl sydd angen cymorth ychwanegol i fyw’n annibynnol, gan ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’i theilwra ar gyfer anghenion unigol; gan hyrwyddo a galluogi annibyniaeth ac annog pobl i wneud penderfyniadau gwybodus.
Manteision gweithio gyda ni ym maes Gofal Cymdeithasol
Trwy ymuno â ni gallwch elwa o gyfraddau tâl uwch, hyfforddiant a chymwysterau, cyfleoedd a all arwain at waith cymdeithasol a nyrsio, ac oriau gwaith addas i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Un o'r rolau mwyaf poblogaidd a boddhaus yn y DU.
- Y cyfle i hyfforddi wrth i chi ddysgu.
- Datblygiad gyrfa parhaus, cymwysterau a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
- Hyblygrwydd ac opsiynau gweithio hybrid.
- Diogelwch swydd a chyflogaeth hirdymor.
- Strwythur rheoli cefnogol.
- Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill

Swyddi gwag diweddaraf
Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd - Cyfnod Mamolaeth
Cyflog: £27,711-£28,624 y flwyddyn
Dyddiad cau: 25/06/2025
Rheolwr Tîm Cynorthwyol (Asesu Arbenigol)
Cyflog: £45,718-£47,754 y flwyddyn
Dyddiad cau: 25/06/2025
Gweithiwr Preswyl - Bakers Way a Harwood House
Cyflog: £14.36 - £14.84 yr awr £19.14 - £19.78 yr awr ar y penwythnos £41.78 fesul cysgu i mewn
Dyddiad cau: 25/06/2025