Swyddi Gwaith Cymdeithasol
Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol yn helpu i warchod plant ac oedolion bregus rhag niwed a chamdriniaeth, a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol.
Mae ein gweithwyr cymdeithasol cymwys, cynorthwywyr gwaith cymdeithasol, uwch ymarferwyr a rheolwyr tîm yn gweithio mewn amrywiaeth o dimau rheng flaen yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys diogelu plant, iechyd meddwl, dysgu, anableddau corfforol.
"Fel rhywun wnaeth adael yr ysgol hefo'r lleiaf o gymwysterau ac yn credu na fyddwn i fyth yn cael y cyfle i gwblhau cwrs gardd, rwy'n eithriadol o ddiolchgar am y cyfleoedd mae'r awdurdod wedi'u rhoi i mi."
Gwaith Cymdeithasol Oedolion
Mae gweithwyr cymdeithasol oedolion yn darparu cymorth a chefnogaeth i unigolion a’u teuluoedd, gan gydweithio i ddod o hyd i ddatrysiadau i’w problemau.
Boed yn gweithio gyda’r henoed, oedolion gydag anableddau corfforol neu ddysgu neu’r rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, byddwch yn eiriolwr i’r rhai mwyaf bregus ac yn eu hamddiffyn rhag niwed a chamdriniaeth.
Gwaith Cymdeithasol Plant
Mae gweithwyr cymdeithasol plant yn darparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd. Drwy gydweithio â theuluoedd ac asiantaethau eraill, maent yn helpu i greu perthnasoedd sy’n darparu diogelwch a sefydlogrwydd tymor hir i blant, gan ymyrryd ar adegau argyfyngus er mwyn rheoli risg, ac amddiffyn y rhai sy’n fregus a rhag camdriniaeth.
Mae helpu i gadw plentyn yn ddiogel yn golygu eich bod yn rhoi cyfle gwell iddynt am ddyfodol hapus, iach a ffyniannus.
Buddion gweithio gyda ni ym maes Gwaith Cymdeithasol
Mae llesiant pobl yn bwysig i ni yng ngwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn gweithio ochr yn ochr ag unigolion i’w galluogi i gydnabod beth sy’n bwysig iddynt fel unigolion, gan adnabod a meithrin eu cryfderau a’u galluoedd a chyflawni'r canlyniadau y maent yn dyheu amdanynt.
Mae buddion trwy ymuno â ni yn cynnwys:
- Gweithio hyblyg/hybrid i gyflawni cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Cyflog cystadleuol gydag ychwanegiad marchnad blynyddol o £5,000 (pro rata) i rai timau
- Buddsoddiad mewn hyfforddiant a datblygiad
- Datblygiad gyrfa parhaus a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
- Hyd at 8k fel pecyn adleoli
- Ystod o gefnogaeth i alluogi staff i gynnal eu llesiant
- Cefnogaeth i gyflawni newid cadarnhaol ym mywydau pobl
- Arweinyddiaeth weledol
- Ymrwymiad i ddull goruchwylio strwythurol
Swyddi gwag diweddaraf
Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Allgymorth Tai
Cyflog: £37,280-£46,142 y flwyddyn. Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 17/12/2025
Swyddog Cymorth Gwaith Cymdeithasol - Cyfnod Penodol
Cyflog: £24,307-£25,099 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10/12/2025
Gweithiwr Cyswllt dan Oruchwyliaeth - Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cyflog: 30 awr yr wythnos £23,187 - £23,951 y flwyddyn
Dyddiad cau: 17/12/2025
Gweithiwr Cymdeithasol - EIPH
Cyflog: £37,280-£46,142 y flwyddyn. Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 24/12/2025
Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol
Cyflog: £37,280 - £46,142 y flwyddyn. Bydd y pwynt cychwyn yn cael ei bennu yn unol â'r Fframwaith Dilyniant. Ystyrir pecyn adleoli hyd at £8,000 ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 24/12/2025
Gweithiwr Cyswllt dan Oruchwyliaeth - Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
Cyflog: £13,912 - £14,370 y flwyddyn
Dyddiad cau: 17/12/2025
Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio 1, 2 a 3 - Lleoliadau a Maethu Cyffredinol
Cyflog: £37,280-£46,142 y flwyddyn. Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant. Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 07/01/2026
Gweithiwr Cymdeithasol 1, 2 a 3 - MASH
Cyflog: £42,280-£51,142 y flwyddyn (yn cynnwys atodiad marchnad o £5,000). Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant. Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 24/12/2025