Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Ymgynghoriadau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi. Rydym am greu cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg. Mae pob ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r botwm Cymraeg.
Mae fformatau amgen hefyd ar gael ar gais.

Ymgynghoriadau cyfredol
Edrychwch ar ein ein hymgynghoriadau cyfredol a lleisiwch eich barn ar-lein.
Mae ein gwefan ymgynghori yn lle i’n cymuned rannu syniadau, trafod pynciau pwysig, rhoi adborth ar bolisi, cynllunio a chyfrannu at ddyfodol ein bwrdeistref sirol.

Panel Dinasyddion
Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys grŵp o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymgynghorir yn rheolaidd â hwy am y gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan y cyngor.
Gall aelodau’r panel dderbyn hyd at dri holiadur y flwyddyn ar ystod o bynciau, gwasanaethau a materion.

Ymgysylltu a Chyfranogiad
Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.
Rydym eisiau meithrin perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth o fewn ein cymunedau lleol a gwella pa mor hygyrch ac atebol yr ydym i bobl leol.
Amser i Siarad Gwasanaethau Diwylliannol
Mae Pen-y-bont ar Ogwr, fel llawer o gynghorau eraill ledled Cymru, yn wynebu heriau ariannol sylweddol dros y blynyddoedd i ddod. Mae nifer o wasanaethau'n cael eu hadolygu i nodi arbedion posibl a sicrhau effeithlonrwydd gweithredol.
Fel rhan o'r ymdrech hon, mae'r Cyngor, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth AWEN, yn canolbwyntio ar ddatblygu strategaeth gwasanaethau diwylliannol newydd.
Dyddiad cau: 25 Awst 2025
Ymgynghoriad: Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n adolygu ein Datganiad o Bolisi Trwyddedu mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003.
Nod y datganiad o bolisi trwyddedu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd, diogelu plant rhag niwed, atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anhrefn wrth annog diwydiant hamdden ac adloniant cynaliadwy.
Dyddiad cau: 08 Medi 2025
Ymgynghoriad Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
Mae'r polisi dyrannu hwn yn nodi sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'i gymdeithasau tai partner yn dyrannu'r mwyafrif o dai cymdeithasol yn y fwrdeistref sirol.
Y cymdeithasau tai sy'n gweithredu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Beacon, Hafod, Linc-Cymru, Trivallis, Unedig Cymru, Cymoedd i’r Arfordir (V2C), Wales & West.
Dyddiad cau: 22 Hydref 2025

Cymerwch ran Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cymryd Rhan, Pen-y-bont ar Ogwr yn lle i’n cymuned rannu syniadau, trafod pynciau pwysig, cyflwyno adborth ar bolisïau a chynlluniau, a chyfrannu at ddyfodol ein bwrdeistref sirol.
Edrychwch ar ein ein hymgynghoriadau cyfredol a lleisiwch eich barn ar-lein.
Gallwch hefyd weld ymgynghoriadau blaenorol ar-lein:
Mae'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru yn rhoi canllawiau ar gyfer arfer gorau ar ymgysylltu â dinasyddion. Rydym wedi ymrwymo wrth yr egwyddorion, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2011.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.
Mae'n gweithio i roi terfyn ar wahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol a chreu perthnasau da. Y nod yw sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gymryd rhan yn ein cymdeithas.
Mae gennym ddeddf sy’n ein helpu ni i gyd i gydweithio er mwyn gwella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant.
Ar gyfer pobl, ar gyfer ein planed. Er mwyn heddiw, ac yfory.
Ei henw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Lleisiwch eich barn ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru drwy ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru.