Ar hyn o bryd, rydym yn derbyn nifer fawr o alwadau ynglŷn â dyddiadau casglu gwastraff yr ardd. Nodwch y bydd gwastraff eich gardd yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â’ch casgliad sbwriel. Bydd Plan B yn cysylltu’n uniongyrchol ag unrhyw gwsmeriaid nad yw eu casgliadau gwastraff yr ardd yn cael eu casglu ar yr un diwrnod â’u casgliadau sbwriel.
Ymgynghoriadau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi. Rydym am greu cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg. Mae pob ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r botwm Cymraeg.
Mae fformatau amgen hefyd ar gael ar gais.

Ymgynghoriadau cyfredol
Edrychwch ar ein ein hymgynghoriadau cyfredol a lleisiwch eich barn ar-lein.
Mae ein gwefan ymgynghori yn lle i’n cymuned rannu syniadau, trafod pynciau pwysig, rhoi adborth ar bolisi, cynllunio a chyfrannu at ddyfodol ein bwrdeistref sirol.

Panel Dinasyddion
Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys grŵp o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymgynghorir yn rheolaidd â hwy am y gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan y cyngor.
Gall aelodau’r panel dderbyn hyd at dri holiadur y flwyddyn ar ystod o bynciau, gwasanaethau a materion.

Ymgysylltu a Chyfranogiad
Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.
Rydym eisiau meithrin perthnasoedd yn seiliedig ar ymddiriedaeth o fewn ein cymunedau lleol a gwella pa mor hygyrch ac atebol yr ydym i bobl leol.
Ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar gyfer Tai Fforddiadwy
Mae gan y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN, Mawrth 2024) mabwysiedig rôl allweddol o ran sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn ymgorffori cymysgedd o dai marchnad agored a thai fforddiadwy, a thrwy hynny, cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy, cydlynol.
Mae Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Tai Fforddiadwy drafft wedi cael eu paratoi i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arnynt. Bwriedir i'r CCA gefnogi a rhoi cyfarwyddyd pellach ynghylch gweithredu'r polisïau Tai Fforddiadwy a geir yn y CDLlN mabwysiedig.
Dyddiad cau: 27 Mawrth 2025
Cynghorau Tref a Chymuned - Adolygiad Trefniadau Etholiadol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal adolygiad Trefniadau Etholiadol ar holl Gynghorau Tref a Chymuned ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r adolygiad wedi ystyried y canlynol:
- Nifer y Cynghorau Tref a Chymuned - gan gynnwys yr opsiwn i gyfuno, newid, neu greu rhai newydd.
- Trefniadau Etholiadol - gan gynnwys nifer y cynghorwyr, nifer y wardiau, nifer y cynghorwyr a etholwyd ym mhob ward, a ffiniau wardiau.
- Enwau/teitlau Cynghorau Tref a Chymuned.
Dyddiad cau: 7 Ebrill 2025
Ymgynghoriad Drafft ar Ganllaw Cynllunio Atodol Datblygiad Manwerthu a Masnachol
Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol (Drafft) – Datblygiadau Manwerthu a Masnachol wedi'u paratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Pwrpas hyn yw cefnogi a rhoi cyfarwyddyd pellach ynghylch gweithredu'r polisïau datblygu manwerthu a masnachol a geir yng Nghynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN, Mawrth 2024) Mabwysiedig Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r CCA yn rhoi arweiniad penodol ar:
- Ddatblygiad yng nghanolfannau masnachol Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg (gan gynnwys Prif Ardaloedd Siopa, Ardaloedd Siopa Eilaidd a'r tu allan i ardaloedd siopa ond o fewn canolfannau masnachol)
- Defnyddiau heblaw A1, A2 ac A3 mewn canolfannau masnachol y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg
- Datblygiadau manwerthu y tu allan i ganolfannau manwerthu a masnachol.
Dyddiad cau: 30 Ebrill 2025
Gallwch hefyd weld ymgynghoriadau blaenorol ar-lein:
Mae'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd yng Nghymru yn rhoi canllawiau ar gyfer arfer gorau ar ymgysylltu â dinasyddion. Rydym wedi ymrwymo wrth yr egwyddorion, a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2011.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb.
Mae'n gweithio i roi terfyn ar wahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol a chreu perthnasau da. Y nod yw sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gymryd rhan yn ein cymdeithas.
Mae gennym ddeddf sy’n ein helpu ni i gyd i gydweithio er mwyn gwella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant.
Ar gyfer pobl, ar gyfer ein planed. Er mwyn heddiw, ac yfory.
Ei henw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Lleisiwch eich barn ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru drwy ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru.