Datganiad preifatrwydd
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cadw nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unigolion sy’n pori’r wefan hon, oni fyddwch chi’n dewis rhoi eich manylion personol i ni mewn e-bost, ar ffurflen ar-lein neu ar Fy Nghyfrif.
O lenwi un o’n ffurflenni ar-lein, caiff y wybodaeth a roddwch chi i ni ei defnyddio gan Gyngor Bwrdeistref Sir Pen-y-bont neu ddarparwr gwasanaeth trydydd sector rydym ni’n ei gontractio i ddarparu’r gwasanaeth y gofynnoch chi amdano.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ymdrechu i gadw’ch gwybodaeth yn ddiogel ac os datgelir gwybodaeth, gwneir hynny yn unol â’r GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth trydydd barti gydymffurfio â’r un safonau.
Cewch chi dynnu’ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu ac yn storio’r wybodaeth ganlynol yn unig a adnabyddir yn electronig: y dyddiad a’r amser, yr IP ffynhonnell, math y porwr a’r system weithredu, dolen y dudalen gyfeirio, y gwrthrych y gofynnwyd amdano, a statws cwblhau’r cais. Nid yw ymwelwyr â’n safle’n cael eu hadnabod gan nad yw’r data a gesglir yn gysylltiedig â gwybodaeth bersonol. Mae’r wybodaeth yn ein galluogi i adnabod problemau gyda’n gweinydd ac asesu poblogrwydd tudalennau o’r wefan er mwyn i ni ei gwella’n barhaus.
Mae’r safle yma’n defnyddio dolenni bitly i fonitro’r defnydd o ddolenni penodol - Polisi preifatrwydd bitly.
Pa mor hir y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol
Byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth bersonol ar ein systemau cyhyd ag y bo angen yn rhan o’r gwasanaeth y gofynnoch chi amdano. Byddwn ni’n ei dileu pan gyflawnir y diben hwnnw. Yn achos gwasanaeth gwybodaeth ar-lein, caiff eich gwybodaeth ei chadw cyhyd â’ch bod yn dewis cael y gwasanaeth.
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer cyfrif ar ein gwefannau, mae gennych chi’r opsiwn o ddileu’ch cyfrif ar unrhyw adeg. Bydd hynny’n dileu’ch gwybodaeth yn barhaol ac ni fydd modd i chi adfer y data. Nodwch y gallai rhan o’r wybodaeth gael ei chadw yn ein cofnodion am gyfnod ar ôl i chi ddileu eich cyfrif.
Hysbysiad prosesu teg – Fy Nghyfrif
Mae Fy Nghyfrif yn wasanaeth ar-lein sy’n rhoi mynediad cyflym, cyfleus a dibynadwy i chi at wasanaethau’r Cyngor. Gallwch chi fewngofnodi, gweld a thalu’ch bil treth gyngor, gwneud cais am fudd-daliadau tai, trefnu debyd uniongyrchol a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn casglu gwybodaeth a rowch. Efallai y caiff yr wybodaeth ei rhannu ag adrannau perthnasol yn y Cyngor, a darparwyr trydydd parti sy'n gweithio ar gontract i'r Cyngor. Dim ond i ddarparu’r gwasanaeth y gofynnoch chi amdano y defnyddir eich gwybodaeth bersonol.
Cewch chi dynnu’ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
SgwrsFot (wedi'i bweru gan ddeallusrwydd artiffisial)
Mae'r sgwrsfot wedi'i gynllunio i gynorthwyo gydag ymholiadau cyffredinol, darparu gwybodaeth am wasanaethau'r cyngor a’ch cyfeirio at yr adran neu'r gwasanaeth ar-lein priodol. Gall y deallusrwydd artiffisial ddefnyddio dysgu peirianyddol a gwybodaeth o'n gwefan i wella ymatebion dros amser. Pan fyddwch chi'n defnyddio'r sgwrsfot, efallai y byddwn yn casglu cynnwys y negeseuon (e.e. cwestiynau/ceisiadau gwasanaeth) ac unrhyw wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu yn wirfoddol (enw, cyfeiriad e-bost, rhifau cyfeirnod). Fodd bynnag, byddem yn annog defnyddwyr i beidio â chyflwyno data personol (e.e. gwybodaeth iechyd, ariannol, neu droseddol) drwy'r sgwrsfot oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd penodol i wneud hynny.
Mae'r holl ddata o sgyrsiau (e.e. unrhyw ryngweithiadau) yn cael ei storio mewn cronfa ddata Mongo yn y DU. Os oes modd ateb cwestiwn y defnyddiwr gyda gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys o fewn y wybodaeth gyffredinol a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yna anfonir cwestiwn y defnyddiwr, ynghyd â'r wybodaeth berthnasol, trwy alwad API i Fodel Iaith Mawr (LLM) a ddarperir gan drydydd parti. Mae'r platfform yn caniatáu dewis LLM, all gynnwys modelau ffynhonnell agored yn ogystal â gwasanaethau masnachol fel OpenAI.
Cewch weld ein holl hysbysiadau preifatrwydd am wasanaethau a ddarperir gennym ar ein tudalen diogelu data: