Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
10K Porthcawl wedi gwerthu allan ac yn dychwelyd Ddydd Sul yma gyda mwy nag erioed yn rhedeg
Dydd Mercher 02 Gorffennaf 2025
Mae 10K Brecon Carreg Porthcawl yn dychwelyd y penwythnos hwn (Dydd Sul 6 Gorffennaf) ac atgoffir trigolion y bydd rhai mesurau diogelwch ar waith gan gynnwys cau ffyrdd dros dro a dargyfeirio bysiau.
Mae ceisiadau ar gyfer y 10K wedi'u gwerthu allan ac anogir trigolion lleol i gymeradwyo pawb sy'n cymryd rhan, gyda 6,200 o redwyr yn cyrraedd o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol.
Bydd y rhedwyr yn pasio nifer fawr o dirnodau hynod gan gychwyn o Bromenâd y Dwyrain cyn pasio lleoliadau fel Rest Bay, Bae Trecco, Bae Coney, canol y dref, y Pafiliwn a Goleudy eiconig Porthcawl. Bydd y llinell derfyn ar ddiwedd yr Esplanâd, yn agos at Cosy Corner.
Mae'r trefnwyr wedi cynllunio'r llwybr i leihau tarfu i drigolion a busnesau a bydd y rhan fwyaf o ffyrdd ar gau am gyfnod byr yn unig, ond sylwch y bydd Promenâd y Dwyrain ar gau o 5am Ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf cyn ailagor am 4pm Ddydd Sul 6 Gorffennaf. Mae map cau ffyrdd llawn ar gael yn www.porthcawl10k.co.uk/road-closures.
Bydd dargyfeiriad hefyd i lwybrau bysiau sy'n cael eu gwasanaethu gan wasanaethau X2, 63 a Stagecoach 172, gwiriwch www.firstbus.co.uk/south-west-wales a www.stagecoachbus.com cyn teithio.
Cynghorir unrhyw un sy'n mynychu'r digwyddiad i archebu parcio ymlaen llaw trwy ymweld â www.porthcawl10k.co.uk/travel-parking. Sylwch na allwch yrru i mewn i'r maes parcio i ollwng rhywun heb archeb.
Ynghyd â'r prif ddigwyddiad bydd rhywbeth i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddo, gan gynnwys ras hyfryd y Plantos Bach, ras Herwyr y Dyfodol ar gyfer athletwyr ifanc cystadleuol yn ogystal â Ras Hwyl i'r Teulu.
“Mae 10K Porthcawl yn parhau i dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac mae'n wych gweld pa mor eang yw cwmpas y digwyddiad hwn gyda chyfleoedd i bobl o bob oed gymryd rhan. "Mae'r digwyddiad hwn nid yn unig yn boblogaidd ymhlith trigolion ond mae hefyd yn llwyfan i Borthcawl fel cyrchfan dwristiaeth o ansawdd uchel. Byddwn i’n annog unrhyw un sy'n mynychu a'r holl breswylwyr i wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r ffyrdd fydd ar gau a'r trefniadau parcio cyn y penwythnos hwn."
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Borthcawl ar gyfer 10K Brecon Carreg Porthcawl ac rydym yn gyffrous mai hwn fydd ein digwyddiad mwyaf eto gyda'r holl geisiadau cyffredinol bellach wedi eu llenwi a 6,200 o redwyr wedi cofrestru i gymryd rhan. "Fel bob amser, gallwch ddisgwyl awyrgylch gwych o amgylch y cwrs ac ar y llinell derfyn a bydd yn ddiwrnod allan gwych i'r teulu cyfan gyda llawer i'w wneud ym mhentref y digwyddiad a'r ardal gyfagos."
