200 o gartrefi, siopau a mwy wedi'u cynllunio ar gyfer hen ystâd ddiwydiannol

Dydd Mercher 27 Awst 2025

Mae prosiect adfywio uchelgeisiol fydd yn trawsnewid hen ystâd ddiwydiannol Heol Ewenni ym Maesteg gyda chartrefi, siopau a chyfleusterau cymunedol newydd wedi symud gam ymlaen at gael ei wireddu. 

Mae contractau wedi cael eu cyfnewid rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac Avant Homes ar gyfer prynu tir y safle sydd wedi mynd â’i ben iddo, ac a fydd yn cael ei ddefnyddio i adeiladu hyd at 200 o dai newydd ar ran cymdeithas dai Cymoedd i’r Arfordir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Gyda chefnogaeth y cwmni cyfreithiol Hugh James, y cynllun hwn, gwerth £41.8m, fydd datblygiad mwyaf y gymdeithas dai erioed a'i nod yw darparu cyfuniad o eiddo perchentyaeth cost isel, cartrefi i’w gwerthu ar y farchnad agored, a chartrefi rhent fforddiadwy a rhent cymdeithasol.

Yn defnyddio £3.5m o gyllid gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Clowes Developments yn y broses o gael gwared ar seilwaith diwydiannol hynafol neu ddiangen o'r safle 16 erw  fel y gellir dechrau adeiladu'r tai newydd.

Gyda disgwyl i'r gwaith presennol ar y safle gael ei gwblhau erbyn diwedd 2025 a chaniatâd cynllunio eisoes ar waith, bydd Avant yn dechrau adeiladu'r cartrefi newydd ar ran Cymoedd i’r Arfordir yn gynnar yn 2026 a chwblhau'n llawn ar gyfer 2030. 

I’w helpu i weithredu fel cymuned newydd, bydd y cyngor yn cyflwyno cyfleoedd manwerthu ar y safle ynghyd â thirlunio ffres, cysylltiadau trafnidiaeth a digon o le agored. Fel rhan o'u hymrwymiadau gwerth cymdeithasol, mae Cymoedd i’r Arfordir hefyd wedi addo £20,000 i gefnogi prosiectau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu. 

"Mae'r prosiect uchelgeisiol hwn wedi bod yn cael ei ddatblygu ers 10 mlynedd. Mae’n rhan allweddol o'n Cynllun Datblygu Lleol, ac mae wedi'i gynllunio'n ofalus i sicrhau ei fod yn ateb gofynion y gymuned leol. "Mae'n cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yng Nghwm Llynfi fydd, wedi i’r gwaith tir gael ei gwblhau a'r gwaith adeiladu ei ddechrau, yn trawsnewid ein safle tir llwyd mwyaf y cymoedd. "Ar ôl ei gwblhau bydd y datblygiad yn dod â buddion economaidd a chymdeithasol enfawr i Gwm Llynfi a Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac rwyf am ddiolch i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, Clowes Developments, Avant Homes, Cymoedd i’r Arfordir a Hugh James am eu hymdrechion i weithio gyda'i gilydd i wireddu hyn."
"Mae hon yn foment bwysig iawn i Cymoedd i’r Arfordir a Maesteg. Heol Ewenni yw ein datblygiad mwyaf hyd yn hyn; ac mae’n fenter uchelgeisiol i helpu teuluoedd, cyplau ac unigolion sydd â’r angen fwyaf am gartrefi i osod gwreiddiau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. "Mae'n rhan o'n hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael â'r angen am dai yn ein cymunedau, gan greu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel sy'n rhoi'r sefydlogrwydd a'r diogelwch mae pobl yn eu haeddu.”
"Rydym yn falch iawn o weld potensial hen safle Revlon yn cael ei ryddhau, ei adfer a'i ailddatblygu yn gartrefi fforddiadwy a chanolfan gymunedol y mae mawr eu hangen. "Trwy'r gronfa bwlch hyfywedd tai, rydym wedi gallu buddsoddi ym mhen gogleddol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n hanfodol i annog busnesau i sefydlu a thyfu ac i bobl leol deimlo bod eu hardal leol yn rhywle lle gallan nhw ffynnu. Bydd yn wych gweld y datblygiad yn mynd rhagddo dros y misoedd nesaf."
"Mae Clowes Developments yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth ar y prosiect adfywio trawsnewidiol hwn. Mae ailddatblygu hen ystâd ddiwydiannol Heol Ewenni yn gam mawr ymlaen i Faesteg, yn datgloi potensial safle sydd wedi mynd â’i ben iddo ers blynyddoedd er mwyn gallu darparu cartrefi newydd mawr eu hangen ochr yn ochr â chyfleoedd buddsoddi, manwerthu a defnydd cymunedol yn y dyfodol."
Mae'r hen ystâd ddiwydiannol 16 erw yn cael ei pharatoi ar gyfer siopau, cartrefi a chyfleusterau cymunedol newydd.

Chwilio A i Y

Back to top