Dweud eich dweud: Ymgynghoriad Cyllideb 2026
Adfer Gwasanaethau Bws drwy Ben-y-Fai, Pwll Cynffig a Mawdlam
Dydd Iau 15 Ionawr 2026
Bydd gwasanaethau bws yn gweithredu unwaith eto drwy Ben-y-Fai, Pwll Cynffig a Mawdlam o ddydd Llun 23 Chwefror, yn dilyn cytundeb rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a First Cymru Buses Ltd.
Bydd gwasanaethau drwy Ben-y-Fai yn dychwelyd fel rhan o'r llwybr gwasanaeth presennol Rhif 71, sy'n gweithredu rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cymer drwy Faesteg.
Bydd y gwasanaeth yn dargyfeirio trwy Ben-y-Fai ar ei deithiau i mewn ac allan heb unrhyw gost ychwanegol, gan redeg bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng tua 7.44am a 6.17pm.
Mae hyn yn golygu na fydd Gwasanaeth Rhif 71 bellach yn gweithredu'n uniongyrchol i McArthurGlen Designer Outlet ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Fodd bynnag, bydd Gwasanaeth Rhif 70 yn parhau i wasanaethu'r ardaloedd hynny ar ei lwybr presennol heb newid.
Ar gyfer teithwyr ar Rif 71 sy'n dymuno teithio i Ysbyty Tywysoges Cymru neu McArthurGlen Designer Outlet, os ydynt yn defnyddio tocyn dydd, tocyn bws teithio consesiynol am ddim, neu'r cyfleuster Tapio i Mewn ac Allan, byddant yn gallu trosglwyddo i wasanaeth arall yng Ngorsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr i barhau â'u taith. Fel arall, gallant aros ar y bws yng Ngorsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr nes iddo adael fel Gwasanaeth Rhif 70.
Mae'r un peth yn berthnasol i’r daith yn ôl i Faesteg, a fyddai'n Wasanaeth Rhif 70 yn ôl i Orsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr, gyda'r bws yn newid i Wasanaeth Rhif 71 wrth adael Gorsaf Fysus Pen-y-bont ar Ogwr i Faesteg.
Ar gyfer teithwyr sydd wedi prynu tocyn sengl neu docyn dychwelyd, bydd angen iddynt aros ar y bws neu dalu pris ychwanegol i deithio ymlaen i McArthurGlen neu Ysbyty Tywysoges Cymru.
Yn y cyfamser, bydd gwasanaethau drwy Bwll Cynffig a Mawdlam yn cael eu hadfer o dan y gwasanaeth newydd, Rhif 63B, a fydd yn gweithredu fel rhan o'r llwybr presennol Rhif 63 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl.
Bydd Gwasanaeth Rhif 63B yn rhedeg bob awr, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, trwy Fawdlam a Phwll Cynffig rhwng tua 9.41am a 3.39pm. Efallai y bydd cyfleoedd i gyflwyno teithiau ychwanegol yn cael eu harchwilio yn y dyfodol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
"Mae adfer y gwasanaethau bws hyn yn newyddion i'w groesawu i gymunedau lleol sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i gael mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a llawer o wasanaethau hanfodol eraill. "Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, a hoffwn ddiolch i drigolion, aelodau'r ward, swyddogion y cyngor a First Cymru Buses Ltd am eu hymgysylltiad a'u hymrwymiad parhaus. "Mae gwella cysylltedd ar draws y fwrdeistref sirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gryfhau a gwella'r ddarpariaeth fysus leol lle bynnag y bo modd."
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Uned Trafnidiaeth Gyhoeddus CBSP ar 01656 642591 neu e-bostiwch publictransport@bridgend.gov.uk. Bydd bysiau First Cymru yn cyhoeddi'r amserlen newydd yn agosach at y dyddiad cychwyn.