Adroddiad Estyn yn canmol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai

Dydd Llun 07 Ebrill 2025

Yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn, nodwyd cryfderau niferus Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai gan arolygwyr, a ganmolodd yr ysgol "hapus a bywiog" yn enwedig am ei chynhwysiant a'i darpariaeth Blynyddoedd Cynnar.

Ystyriwyd ei bod yn "rhagorol" ac yn llwyddo i ddatblygu "sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol", canmolwyd darpariaeth addysg Blynyddoedd Cynnar yr ysgol am annog chwilfrydedd a greddf y plant i archwilio.  Gan fod arsylwi yn allweddol i gynllunio gweithgareddau sy'n herio ac yn ennyn diddordeb disgyblion, mae staff hefyd yn defnyddio eu harsylwadau craff i addasu strategaethau addysgu i ddarparu ar gyfer dysgwyr.

Nododd arolygwyr hefyd sut mae cynhwysiant yn cael ei hyrwyddo yn yr ysgol, gydag arweinwyr yn canolbwyntio'n amlwg ar wella canlyniadau i bob dysgwr, ni waeth beth yw cefndir a dysgu blaenorol y disgyblion - gan gyfrannu at ymdeimlad o berthyn i gymuned gynnes a chroesawgar yr ysgol. 

Mae’r iaith gefnogol, feithringar a ddefnyddir gan staff wrth ymgysylltu â disgyblion yn effeithio'n gadarnhaol ar ymddygiad y plant, ac mae'r gwaith 'llais y disgybl' a wneir yn yr ysgol yn creu cyfleoedd i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.

Tynnodd adroddiad Estyn sylw at y ffaith bod gweithdrefnau cadarn ar waith ar gyfer gwerthuso cryfderau'r ysgol a’i meysydd i'w gwella, tra bod cyfrifoldebau a rennir ar draws y staff yn sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu rheoli a'u bod yn cael eu hystyried yn brydlon. 

"Rydym i gyd mor falch bod y disgyblion a'r staff gwych yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai wedi derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu. Mae'r ysgol yn lle mor hapus, bywiog, croesawgar a gofalgar, lle mae'r disgyblion yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae’r ffaith bod Estyn yn cydnabod hyn, ochr yn ochr â'r cynnydd eithriadol y mae ein dysgwyr yn ei wneud oherwydd yr addysgu gwych maen nhw’n ei dderbyn, yn wych - mae'n gwneud arweinwyr a llywodraethwyr ein hysgol yn hynod falch."
Cymerodd disgyblion o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai ran mewn cyfres o weithgareddau ymarferol.
"Dylai pawb yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai fod yn hynod falch. Yn ogystal â chael eu canmol am y safonau addysgu a dysgu, yn bwysicaf oll, maen nhw wedi’u canmol am gynhwysiant yr ysgol a pha mor hapus yw'r plant yn y lleoliad. "Rwy'n credu'n gryf os yw plant yn hapus, byddan nhw'n ffynnu. Da iawn i bawb, mae adroddiad Estyn yn dyst i'ch ymrwymiad, eich ymroddiad, ond yn arbennig eich gofal i bob plentyn, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hanghenion."

Chwilio A i Y

Back to top