Ail Barth Crimestoppers Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’i lansio ym Mrynmenyn

Dydd Llun 19 Mai 2025

Yn ddiweddar, mae cydweithrediad rhwng Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r elusen annibynnol, Crimestoppers, wedi lansio Parth Crimestoppers ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr – yr ail o'i fath yn y Fwrdeistref Sirol.

Ar ôl cyflwyno Parth Crimestoppers cyntaf Cymru yn Wildmill, Pen-y-bont ar Ogwr, datblygwyd y parth newydd ym Mrynmenyn i annog trigolion i ddefnyddio gwasanaeth unigryw'r elusen sy’n ymwneud ag adrodd am droseddau, gan wybod y bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn aros yn gwbl ddienw. 

Nod y fenter Parth Crimestoppers yw annog cymunedau i gynnig manylion am droseddau yn ddienw, heb ofni dial gan droseddwyr.

Mae wedi'i chynllunio i rymuso pobl i chwarae rôl yn ddiogel wrth fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgarwch troseddol yn eu hardal leol.

Gall yr elusen gasglu gwybodaeth am droseddau a gynigir mewn dros 140 o ieithoedd gwahanol. Os oes angen, gall cyfieithydd fod ar gael o fewn ychydig funudau i'r rheini sy'n ffonio Crimestoppers.

Ail Barth Crimestoppers Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr   wedi’i lansio ym Mrynmenyn
"Rydym wrth ein bodd i lansio'r fenter hon mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r cysyniad yn syml, os ydych chi'n gweld rhywbeth sy'n eich poeni chi, mae gennych chi ffordd ddiogel a dienw o adrodd amdano.  "Gyda'r Parth Crimestoppers, gall trigolion adrodd am unrhyw amheuon neu ddarparu gwybodaeth am weithgarwch troseddol heb ofni dial. Mae eich llais yn bwysig, a gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn wrth greu Brynmenyn mwy diogel.                                                        "Mae gan rai pobl wybodaeth am droseddau, ond maen nhw'n teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw le i fynd iddo, nac unrhyw un i droi ato. Cofiwch fod yr elusen Crimestoppers a'n gwasanaeth Fearless ar gyfer pobl ifanc, yma i helpu.  "Dydyn ni ddim yn barnu nac yn cymryd unrhyw fanylion personol gan y rheini sy'n cysylltu â ni. Y cyfan rydyn ni ei eisiau yw'r wybodaeth sydd gennych. Byddwch yn aros 100 y cant yn ddienw. Bob amser.”
"Mae cyfathrebu cymunedol am weithgarwch troseddol yn allweddol i leihau troseddu. Mae'r Parth Crimestoppers yn annog trigolion i gynnig gwybodaeth hanfodol yn ddiogel ac yn ddienw. "Mae gan drigolion wybodaeth leol fanylach na chyrff cyhoeddus - mae adrodd am ddigwyddiadau troseddol yn amlygu lle gall fod mannau trafferthus, ac yn darparu gwybodaeth am droseddwyr a allai ganiatáu i'r heddlu weithredu.   "Mae rhannu gwybodaeth bwysig yn eich galluogi i gael rôl ganolog wrth helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad annymunol, gwrthgymdeithasol a helpu i sicrhau euogfarnau i gyflawnwyr y troseddau hyn." 

Gall preswylwyr gysylltu â'r elusen Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111 ar unrhyw adeg, drwy lenwi ffurflen ar-lein ddiogel yn Crimestoppers-uk.org, neu drwy ymweld â Fearless.org - gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc, sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol am gadw eu hunain a'u cyfoedion yn ddiogel. 

Sylwer: mae Crimestoppers-uk.org a Fearless.org yn sicrhau nad yw cyfeiriadau IP cyfrifiadurol byth yn cael eu holrhain, ac ni fydd neb byth yn gwybod pwy sydd wedi cysylltu â nhw. 

Ar gyfer galwadau ffôn i Crimestoppers drwy 0800 555 111, nid yw llinell y galwr yn cael ei arddangos, nid oes cyfleuster 1471, ac nid oes galwadau erioed wedi'u holrhain. 

Chwilio A i Y

Back to top