Alldro’r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2025/26 i’w Gyflwyno i'r Cabinet
Dydd Iau 18 Mehefin 2026
Bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno alldro cyllideb y cyngor ar gyfer 2025-26 pan fydd yn cwrdd ar 23 Mehefin, gyda'r adroddiad yn dangos sut gwnaeth y cyngor gydbwyso’r gyllideb tra hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol a chymorth i drigolion.
Er gwaethaf y pwysau ariannol cenedlaethol parhaus sy'n wynebu llywodraeth leol, llwyddodd y cyngor i sicrhau cyllideb refeniw net gwerth £383.2 miliwn a gorffennodd y flwyddyn ariannol gyda thanwariant bach o £278,000. Bydd y tanwariant nawr yn cael ei drosglwyddo i Gronfa Cronfeydd wrth Gefn y Cyngor.
Mae alldro ariannol diwedd y flwyddyn hefyd yn dangos bod £13.1 miliwn wedi'i neilltuo i gronfeydd wrth gefn clustnodedig i gefnogi buddsoddiad yn y dyfodol mewn gwasanaethau, cyfleusterau a phrosiectau fydd o fudd i gymunedau ledled y fwrdeistref sirol.
Gwnaed hyn drwy gyfuniad o gyllid grant ychwanegol, incwm buddsoddi cynyddol a chyllid wedi’i dderbyn yn sgil trefniadau rheoli gwastraff cenedlaethol newydd.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut mae'r cyngor wedi llwyddo i reoli cyllideb o fwy na £383 miliwn yn ystod blwyddyn heriol arall i gyllid llywodraeth leol. "Mae'r adroddiad yn nodi, er gwaethaf pwysau sylweddol mewn rhai meysydd, ein bod wedi sicrhau tanwariant bach ac wedi cryfhau ein gallu i fuddsoddi mewn gwasanaethau a chyfleusterau sy'n bwysig i breswylwyr. "Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau cyllid grant allanol, creu incwm lle bo modd a sicrhau bod pob punt yn cael ei defnyddio'n effeithiol i gefnogi cymunedau lleol. "Rwy’n edrych ymlaen at drafod yr adroddiad gyda chydweithwyr y Cabinet pan fydd yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yr wythnos nesaf."