Amlosgfa Llangrallo yn rhoi £10,000 i Ofal Canser Tenovus

Dydd Mercher 05 Tachwedd 2025

Mae Amlosgfa Llangrallo wedi rhoi £10,000 i Ofal Canser Tenovus fel rhan o gynllun cenedlaethol sy'n codi arian ar gyfer ystod eang o achosion da ledled y Deyrnas Unedig.

Ers ymuno â chynllun Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd (ICCM) yn 2005, mae'r Amlosgfa wedi cefnogi nifer o elusennau profedigaeth a chymunedol lleol trwy ei gyfran o'r arian a godir.

Dewiswyd y sefydliad diweddaraf i dderbyn arian, Gofal Canser Tenovus, gan Gyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo, sy'n cynnwys cynghorwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bro Morgannwg.

Mae'r elusen sydd wedi’i lleoli yng Nghymru yn ymroddedig i gefnogi cleifion canser a'u teuluoedd yn ogystal â chyllido ymchwil hanfodol a hyrwyddo atal ac ymwybyddiaeth o ganser.

Dywedodd llefarydd ar ran Gofal Canser Tenovus: "Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo am y rhodd hynod hael hon. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth ein helpu i gefnogi cleifion canser a'u hanwyliaid ar draws cymunedau lleol."

"Rydyn ni’n falch o gefnogi Gofal Canser Tenovus, elusen sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser ledled Cymru. Mae'r cynllun ICCM yn caniatáu i ni roi yn ôl i'r gymuned mewn ffordd ystyrlon ac mae'n wych y bydd yr elw yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i fywydau pobl leol."
"Rydyn ni’n hynod falch o'r rôl sensitif a thosturiol y mae Amlosgfa Llangrallo yn ei chwarae wrth gefnogi cymunedau lleol ledled y rhanbarth ar yr adegau anoddaf iddyn nhw. Diolch yn fawr i'r holl staff am eu gwaith ymroddedig hirsefydlog."
Delwedd o Amlosgfa Llangrallo
Delwedd o Amlosgfa Llangrallo

Chwilio A i Y

Back to top