Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc: Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun 05 Mai 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 10 Mai 2025.
Annog preswylwyr i 'Dreulio’r haf yng nghanol eich tref' a mwynhau cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus am ddim
Dydd Iau 01 Mai 2025
Mae ymgyrch flynyddol y cyngor i annog pobl i 'Dreulio'r haf yng nghanol eich tref' wedi cychwyn yr wythnos hon.
Gan dynnu sylw at raglen o ddigwyddiadau am ddim sy'n cael eu cynnal gydol misoedd yr haf, nod yr ymgyrch yw hybu ymgysylltiad cymunedol a chefnogi busnesau lleol yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl, a reolir gan y cyngor.
Gall preswylwyr edrych ymlaen at gyfres o ddigwyddiadau am ddim gan gynnwys:
- Gorymdaith Diwrnod y Lluoedd Arfog a gynhelir gan Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr
- 'Marchnadoedd Stryd yr Haf' cwmni Green Top Markets yng nghanol trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
- Gŵyl Morlun Awen ym Mhorthcawl
- Dathliadau Diwrnod VE, a gynhelir gan Gyngor Tref Porthcawl
- Diwrnod Hwyl i'r Teulu ym Mharc Lles Maesteg, a gynhelir gan Gyngor y Dref
- Ras 5k a 10k Ceidwad y Lofa, a gynhelir gan Gyngor Tref Maesteg
- 10k Brecon Carreg Porthcawl

Er mwyn denu ymwelwyr i ganol y trefi, sydd hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o 'fwytai cyrchfan' a masnachwyr a busnesau annibynnol, mae'r cyngor wedi ymestyn ei gynnig parcio am ddim mewn dau faes parcio canol tref a gynhelir gan y cyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, lle gall ymwelwyr barhau i barcio am ddim am y tair awr gyntaf ym maes parcio aml-lawr Rhiw ym Mhen-y-bont ar Ogwr a rhwng hanner dydd a 3pm yn John Street ym Mhorthcawl.
Gall pobl sy'n ymweld â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl 6pm barcio am ddim yn y maes parcio awyr agored mawr yn Brackla Street (y tu ôl i Wilkinson's) a meysydd parcio yn Tremains Road, Tondu Road ac yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae meysydd parcio sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor yn John Street a Hillsboro Place ym Mhorthcawl yn rhad ac am ddim i'w defnyddio ar ôl 6pm, ac mae parcio am ddim hefyd ar gael ar hyd glan y môr.
Mae parcio llawn amser am ddim hefyd ar gael yng nghanol tref Maesteg ym maes parcio aml-lawr Ffordd Llynfi.
Mae Wi-Fi am ddim hefyd ar gael yng nghanol y trefi ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r nod o gynyddu cysylltedd ymhlith trigolion, busnesau ac ymwelwyr.
Mae'r gwasanaeth am ddim ar gael mewn pedair canol tref sef Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, Maesteg a Phen-coed. Er mwyn cysylltu, bydd angen i unigolion chwilio eu gosodiadau rhwydwaith Wi-Fi am "BCBC Free Wi-Fi" ac yna bydd angen iddynt nodi eu cyfeiriad e-bost i ddechrau.
"Mae gweithio gyda'n partneriaid i ddarparu a chefnogi'r digwyddiadau gwych hyn yn amhrisiadwy wrth ddod â thrigolion at ei gilydd i ddathlu ac atgyfnerthu ein hysbryd cymunedol cryf. Fel bob amser, byddwn yn annog trigolion i barhau i gefnogi ein masnachwyr lleol, annibynnol a 'siopa’n lleol' i gefnogi canol ein trefi i barhau i ffynnu."