Anogir trigolion i brofi hud y Nadolig ym Mwrdeistref Sir Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026
Mae trigolion ac ymwelwyr yn cael eu gwahodd i Siopa. Bwyta. Dathlu. y tymor Nadolig hwn a manteisio ar y digwyddiadau hudolus, bwyd a diod Nadoligaidd, siopa Nadolig a chynigion lleol unigryw ar stepen eu drws ar draws canolfannau trefi'r sir.
Mae ymgyrch flynyddol y cyngor 'Treulio'r Nadolig yn Eich Canol Tref' yn arddangos y gorau oll o ganolfannau tref Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Pencoed a Phorthcawl, gan annog pobl i gefnogi busnesau lleol wrth fwynhau profiadau Nadoligaidd, digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd a dathliadau tymhorol yn agos at adref.
Gall pobl o bob oed edrych ymlaen at lu o ddigwyddiadau Nadoligaidd hudolus drwy gydol y tymor, gan gynnwys digwyddiadau cynnau goleuadau Nadolig a gynhelir gan gyngor y dref a Groto Siôn Corn, ochr yn ochr ag atyniadau newydd cyffrous Cyngor Bwrdeistref Sir Pen-y-bont, Llwybr y Corachod a Theyrnas Frozen.
Gall siopwyr hefyd dadlapio arbedion Nadoligaidd drwy wefan Nadolig Digidol Pen-y-bont ar Ogwr a'r apiau WE LOVE Bridgend, WE LOVE Maesteg, WE LOVE Pencoed a WE LOVE Porthcawl. Yn cynnwys cynigion unigryw, hyrwyddiadau tymhorol a gostyngiadau gan fusnesau lleol, maent yn cynnig ffordd hawdd o ddod o hyd i fargeinion lleol gwych tra’n cefnogi manwerthwyr canol tref. Mae'r apiau ar gael i'w lawrlwytho am ddim o’r Apple App Store a Google Play Store.
P'un a ydych chi'n chwilio am yr anrheg berffaith, yn cwrdd â ffrindiau am fwyd a diodydd Nadoligaidd, yn cynllunio dathliad Nadolig neu'n mwynhau diwrnod allan i'r teulu, mae rhywbeth at ddant pawb.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau Nadoligaidd yng nghanol trefi'r fwrdeistref sirol ar wefan y cyngor.
Mae'r Nadolig yn amser arbennig i'n cymunedau, ac mae gan ein canolfannau trefi gymaint i'w gynnig, o ddigwyddiadau Nadoligaidd hudolus i siopau lleol, caffis a bwytai gwych. Byddwn yn annog trigolion ac ymwelwyr i gymryd golwg ar bopeth sydd ar gael ar stepen eu drws, creu atgofion Nadoligaidd parhaol a mwynhau'r nifer o brofiadau sy'n gwneud ein canolfannau trefi mor fywiog i ymweld â nhw. Drwy ddewis siopa, bwyta a dathlu'n lleol, gall pobl hefyd gefnogi'r busnesau sydd wrth galon ein cymunedau yn ystod un o gyfnodau masnachu pwysicaf y flwyddyn.