Ansawdd aer yn parhau i wella ar Stryd y Parc

Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025

Mae lefelau nitrogen deuocsid ar Stryd y Parc yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ostwng yn dilyn mesurau a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wella ansawdd aer lleol.

Mae adroddiad diweddaru blynyddol a gyflwynwyd i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi cadarnhau, er mai Stryd y Parc yw'r unig leoliad yn y fwrdeistref sirol i fod yn uwch na'r targedau cenedlaethol o drwch blewyn, mae allyriadau'n parhau i ostwng ers sefydlu Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn 2019.

Fel rhan o gynllun gweithredu, cyflwynwyd lôn troi i'r dde o Stryd y Parc i Heol-y-Nant, ac mae'r system goleuadau traffig ar gyffordd Stryd y Parc gydag Angel Street wedi'i hadnewyddu a'i moderneiddio'n llawn i sicrhau bod traffig yn gallu symud drwodd yn effeithlon ac ar y lefelau gorau posibl. 

Mae hyn wedi helpu i fynd i'r afael â lefelau nitrogen deuocsid trwy wella llif traffig, lleihau nifer y cerbydau sy'n ciwio ar hyd y ffordd, a sicrhau bod allyriadau yn gostwng. O ganlyniad, disgwylir i ansawdd aer ar hyd Stryd y Parc fod yn cydymffurfio'n llawn â thargedau cenedlaethol erbyn 2026, a gall y cyngor ystyried a yw'r Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn dal i fod yn angenrheidiol o 2027 ymlaen.

Gan ddefnyddio cyllid o £5,950 gan Lywodraeth Cymru, bydd y cyngor hefyd yn uwchraddio synwyryddion monitro awtomatig presennol i sicrhau y gall monitro barhau.

"Mae canlyniadau adroddiad Monitro Ansawdd Aer 2025 yn galonogol iawn ac yn dangos bod y mesurau rydyn ni wedi'u cymryd hyd yn hyn yn parhau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol. "Bydd monitro lefelau nitrogen deuocsid yn rheolaidd ar hyd y llwybr hwn yn parhau, ond rydw i eisoes yn edrych ymlaen at y foment pan fyddwn yn derbyn cadarnhad bod targedau cenedlaethol wedi'u cyrraedd, a bod ansawdd aer wedi cael ei adfer."
Delwedd o Stryd y Parc

Chwilio A i Y

Back to top