Apêl Siôn Corn yn chwalu’r targed gan ddod â hwyl yr ŵyl i gannoedd o blant lleol
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025
Mae Apêl Siôn Corn eleni wedi bod yn llwyddiant ysgubol eto, gyda chymuned Pen-y-bont ar Ogwr yn camu i’r adwy ar lefel ryfeddol i sicrhau bod plant lleol yn cael Nadolig hudolus. Diolch i haelioni anhygoel trigolion, grwpiau lleol, ysgolion, eglwysi, a busnesau, mae'r apêl nid yn unig wedi cyrraedd ond wedi rhagori ar bob disgwyliad.
Mae'r dudalen rhoddion 'Just Giving' ar-lein, a sefydlwyd mewn cydweithrediad â'n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, nid yn unig wedi cyrraedd ei tharged o £10,000 ond wedi ei chwalu’n llwyr, gyda swm o anhygoel o £11,869.13 wedi’i godi (gan gynnwys Cymorth Rhodd). Ar ben hynny, mae rhoddion wedi bod yn cyrraedd yn rheolaidd yn Swyddfeydd Dinesig y cyngor a mannau gollwng dynodedig yng nghyfleusterau Hamdden Awen a Halo ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydyn ni wedi gweld rhai cyfraniadau gwirioneddol dwymgalon gan unigolion a busnesau lleol fel ei gilydd, tra bod grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Gyfun Cynffig wedi dylunio posteri, gwneud cyflwyniadau mewn gwasanaethau, ac ymchwilio i anrhegion addas ar gyfer 'Coeden Roi', i annog staff, disgyblion, rhieni ac ymwelwyr â'r ysgol i gymryd rhan a chyfrannu at yr apêl eleni.
Ac ni wnaeth eu haelioni stopio fan’na! Buodd ein timau cyngor ein hunain, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’r Gwasanaethau Dydd, yn greadigol drwy werthu teisennau, a gwnaeth Coleg Penybont a Porter's Estate Agents roddion sylweddol o deganau, anrhegion neu arian.
Diolch arbennig i'r 50 o wirfoddolwyr anhygoel a roddodd o’u hamser a'u hegni i lapio a threfnu dros 1,400 o deganau ac anrhegion. Bydd yr anrhegion yn mynd i blant a phobl ifanc yn ein gofal, wedi'u henwebu gan ein timau Gofal Cymdeithasol a Chymorth Cynnar/Dechrau'n Deg.
"Er gwaethaf blwyddyn ariannol anodd arall i lawer, mae pobl leol wedi ymateb yn anhygoel i'r alwad am roddion i Apêl Siôn Corn eleni. Rydyn ni wedi ein syfrdanu gan haelioni pobl ac yn falch iawn y bydd 250 o blant a phobl ifanc lleol sydd yn ein gofal yn cael anrheg i'w hagor ar ddydd Nadolig. Hoffwn ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cymryd yr amser a gwneud yr ymdrech i gyfrannu at yr apêl eleni – mae eich haelioni a'ch caredigrwydd yn golygu bod gan blant lleol rywbeth i'w ddathlu y Nadolig hwn. Hoffem hefyd ddiolch i'n staff, ein partneriaid yn Awen, Halo a Choleg Penybont a'r gwirfoddolwyr yn Nhabernacl Bracla - fydden ni ddim wedi gallu gwneud hyn heb eich cefnogaeth!"