Arolygwyr Estyn yn dathlu ethos cadarnhaol Ysgol Gynradd Maes yr Haul

Dydd Mercher 14 Mai 2025

Y Pennaeth, Kevin Stroud, gyda'r Dirprwy Bennaeth, Claire Merfield, ac aelodau o gyngor yr ysgol.

Mae ethos sy'n hyrwyddo lles a pharch ar y ddwy ochr rhwng disgyblion a staff wedi cael ei amlygu mewn arolygiad diweddar gan Estyn o Ysgol Gynradd Maes yr Haul, sydd wedi'i lleoli yn Broadlands, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r ysgol gynradd wedi cael ei chanmol am ymddygiad eithriadol ei dysgwyr, ynghyd â'r parch amlwg gan y disgyblion tuag atynt eu hunain, ei gilydd, aelodau o staff, ac ymwelwyr.

Mae'r ysgol gynradd wedi cael ei chanmol ymhellach gan arolygwyr am gefnogi staff i ddatblygu sgiliau arwain, y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgwyr ymgymryd â rolau arweinyddiaeth, yn ogystal â gallu'r ysgol i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol disgyblion, gan gynnwys dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Nododd adroddiad Estyn hefyd y ffordd y mae perthynas agos â phartneriaid allanol yn cefnogi teuluoedd sydd angen help ychwanegol.

Dywedodd y Pennaeth, Kevin Stroud: “Rwy'n falch iawn bod Estyn wedi cydnabod gwaith eithriadol ac ymrwymiad cryf ein staff, ein tîm arwain, ein llywodraethwyr a'n rhieni i ddarparu'r gorau i bob un o’n disgyblion ym Maes yr Haul.  

“Fel tîm, mae pawb yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn lle rhagorol i'n holl ddisgyblion, gan gynnal ethos cadarnhaol gyda ffocws uchel ar les a sicrhau cynnydd cryf i'n holl ddisgyblion waeth beth fo'u cefndir neu anghenion unigol. Mae staff yn falch o'u hysgol ac yn gweithio'n galed i greu amgylchedd ysgogol a meithringar lle gall pob disgybl ffynnu a chyrraedd ei lawn botensial ar draws ystod eang o wahanol sgiliau a diddordebau. 

“Rwy'n arbennig o falch bod Estyn wedi cydnabod ein hanes cryf o gefnogi athrawon dan hyfforddiant trwy eu Haddysg Gychwynnol i Athrawon ac o ddatblygu sgiliau arwain ein hathrawon. Nhw yw athrawon ac arweinwyr ysgol y dyfodol, ac mae'n ymrwymiad a chyfrifoldeb sy'n bwysig iawn i mi.

“Diolch yn ddiffuant i bawb sy'n ymwneud â theulu Maes yr Haul am eu hymrwymiad di-baid i wneud eu gorau glas i'n disgyblion, nawr ac i’r dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Jones, Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Ieuenctid: “Am adroddiad Estyn gwych – dylai staff a disgyblion Ysgol Gynradd Maes yr Haul fod yn hynod falch.

“Mae'r ffaith bod lles a pharch yn cael cymaint o flaenoriaeth yn yr ysgol yn darparu sylfaen wych i adeiladu popeth arall arni.

“Da iawn bawb! Ardderchog!”

Image: Y Pennaeth, Kevin Stroud, gyda'r Dirprwy Bennaeth, Claire Merfield, ac aelodau o gyngor yr ysgol.

Chwilio A i Y

Back to top