Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Artist lleol yn llwyddo yn uned dros dro Marchnad Maesteg
Dydd Gwener 22 Awst 2025
Mae busnes lleol wedi gorffen arhosiad mis o hyd ym menter dros dro Marchnad Maesteg, trwy garedigrwydd tîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor.
Mae Carly Lewis, sylfaenydd Nature's Printmaker, yn cynnal gweithdai celf sydd yn addas i blant ac oedolion, wedi'u hysbrydoli gan natur ac yn canolbwyntio ar les. Yn gyn-athrawes gelf ysgol uwchradd, mae hi'n dod â mwy na degawd o brofiad i sesiynau creadigol sy'n tawelu'r meddwl ac yn sbarduno dychymyg.
Yn ystod ei harhosiad yn Uned 14, mae hi wedi cynnal cyfres o weithdai sy'n arddangos techneg artistig argraffu gelli, gydag ystod o bynciau gwahanol gan gynnwys natur, ffrwythau a deinosoriaid . Mae hi wedi cynnal dosbarthiadau sydd wedi cynnwys plant ac oedolion ac wedi cael ymateb da gan breswylwyr.
"Rwyf wedi cael yr amser mwyaf anhygoel gyda fy arhosiad yn For A Limited Time Only…...?. Mae wedi bod yn brofiad mor adfywiol cael lle i ddysgu celf i gymaint o bobl; mae pob person sydd wedi cerdded trwy'r drysau wedi bod mor gefnogol a charedig, rwy'n wirioneddol ddiolchgar am yr holl bositifrwydd. Mae tîm Economaidd a Menter y cyngor wedi rhoi llawer iawn o gymorth i mi gyda'r gofod hwn ac mae wedi bod yn daith wirioneddol anhygoel. Rwyf am ddiolch o galon i bawb am y gefnogaeth anhygoel trwy gydol y daith greadigol hon - mae eich negeseuon, eich archebion, a'ch geiriau caredig wedi golygu'r byd i mi."
Yn ddiweddar, ymwelodd y Cynghorydd Huw David, Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, â Carly yn yr uned yn ystod gweithdy print ar thema deinosoriaid.
"Roedd cwrdd â Carly mor hyfryd ac mae hi wedi creu gofod cynnes, croesawgar ym Marchnad Maesteg. Mae pawb rydw i wedi siarad â nhw sydd wedi mynychu ei gweithdai wedi cael amser mor hyfryd ac mae gweld busnes arall yn ffynnu yn yr uned dros dro hon yn hynod o galonogol."
Y preswylydd nesaf i gymryd drosodd yr uned dros dro fydd Nude Jewels, gemydd sterling arian creadigol â llaw gan gof arian hunan-ddysgedig.
Mae'r tîm Datblygu Economaidd a Menter yn dal i chwilio am fusnesau sydd â diddordeb yn yr uned; gall busnesau gwblhau’r Ffurflen Datgan Diddordeb hon.
I gadw llygad ar y masnachwyr sydd ar ddod a gweld rhestr lawn o fasnachwyr y gorffennol, gallwch fynd i dudalen swyddogol yr uned ar ein gwefan.
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


